Cylchgrawn dwyieithog ar-lein yw parallel.cymru, sy'n cyhoeddi erthyglau yn Gymraeg gyda chyfieithiadau i'r Saesneg ochr yn ochr â'r gwreiddiol. Mae'r erthyglau'n ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau. Graddolir y deunydd yn ôl hyfedredd (Syml, Anffurfiol, Ffurfiol, Llenyddol).

Hanes golygu

Cafodd y wefan ei lansio ym mis Tachwedd 2017 a rheolwr y prosiect oedd Neil Rowlands. O fewn blwyddyn o lansio, llwyddodd Parallel.cymru i ddenu 5,000 o ymwelwyr y mis a chynnal hyn ar gyfer y flwyddyn ganlynol heb gyllideb ar gyfer y gwaith. Ceisiwyd sicrhau cefnogaeth sefydliadau Cymraeg i'r fenter er mwyn troi'r prosiect o fod yn hobi gwirfoddol i fod yn gyhoeddiad llawn, ond ar ôl methu yn hynny o beth, peidiwyd ag ychwanegu eitemau newydd i'r wefan ar ôl mis Hydref 2019. Fodd bynnag, cedwir y cynnwys unigryw ar-lein fel adnodd cyhoeddus.

Dolenni allanol golygu