Parnasiaid

(Ailgyfeiriad o Parnasaidd)

Ysgol o feirdd Ffrengig yn y 19g a bwysleisiai gywirdeb ffurf fydryddol oedd y Parnasiaid (Ffrangeg: les Parnassiens). Roedd yn adwaith yn erbyn canu rhydd y Rhamantwyr, ac yn un o'r mudiadau llenyddol, megis Symbolaeth ac Esthetiaeth, sy'n pontio Rhamantiaeth a Moderniaeth yn ail hanner y 19g.

Y drydedd gyfrol o Le Parnasse contemporain (1876).

Daw'r enw o gylchgrawn y beirdd, Le Parnasse contemporain, a gyhoeddwyd gan Alphonse Lemerre mewn tair chyfrol yn 1866, 1871, a 1876 dan olygyddiaeth Louis-Xavier de Ricard a Catulle Mendès. Ymhlith y llenorion a chyhoeddant eu gwaith yn y cyfnodolyn hwnnw oedd Charles-Marie-René Leconte de Lisle—bardd pennaf y mudiad—Théodore de Banville, Sully Prudhomme, Paul Verlaine, François Coppée, a José-Maria de Heredia. Dylanwadwyd arnynt gan Théophile Gautier a'i athrawiaeth "celfyddyd er mwyn celfyddyd", a hefyd gan feddylfryd y bardd Leconte de Lisle a'r cylchgrawn La Revue Fantaisiste (1860). Y brif esiampl a efelychwyd ganddynt oedd Émaux et camées (1852), casgliad o gerddi gan Gautier a gafodd effaith gref ar Albert-Alexandre Glatigny, Banville, Coppée, Léon Dierx, a J. M. de Heredia.

Buont yn pwysleisio cynildeb, gwrthrycholdeb, mesurau caeth, techneg y grefft farddonol, a disgrifiadau manwl yn hytrach nag emosiynoldeb ac amwysedd yr hen Ramantwyr. Roedd y soned yn arbennig o boblogaidd. Defnyddiwyd mytholeg ac arwrgerddi'r hen wareiddiadau, yn enwedig yr India a Groeg yr Henfyd, yn themâu ganddynt. Cysylltir barddoniaeth y Parnasiaid â thueddiadau eraill yn llên Ewrop yn niwedd y 19g, yn bennaf y ddrama a'r nofel realaidd. Cawsant ddylanwad ar draws Ewrop, yn enwedig ar y mudiad Modernaidd yn Sbaen a Phortiwgal a La Jeune Belgique yng Ngwlad Belg.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Parnassian (French literature). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Ebrill 2019.