Dyluniad tecstilau addurnol yw patrwm paisley, sy'n defnyddio'r boteh (Perseg: بته) neu buta (Aserbaijaneg), sef motiff siâp deigryn gyda chynffon grwm. Daeth hyn yn boblogaidd iawn yn y Gorllewin yn y 18g a'r 19g, ar ôl i fersiynau o'r dyluniad gael eu mewnforio o India, yn enwedig ar ffurf siolau cashmir, ac yna fe'u gweithgynhyrchwyd yn lleol.

Patrwm paisley modern nodweddiadol

Mae'r siâp boteh sylfaenol, tebyg i gôn pinwydd neu almon, o darddiad Persiaidd, ond Indiaidd yw'r arferiad o greu patrwm o'r rhain er mwyn llenwi darn o frethyn. Fodd bynnag, ym Mhrydain mae'r enw a ddefnyddir ar gyfer y patrymau hyn yn dod o dref Paisley, yng ngorllewin yr Alban, canolfan ar gyfer tecstilau; roedd y siolau a wnaed yno yn defnyddio'r patrwm yn aml. Weithiau gelwir y patrwm yn "Persian pickles" yn America, a "Welsh pears" yng Nghymru.

Yn ogystal â'i ddefnydd traddodiadol fel patrwm ar gyfer siolau (gweler siôl bersli), mae paisley i'w gael ar bob math o eitemau ffasiwn, gan gynnwys papur wal, esgidiau, bagiau llaw a hyd yn oed gitarau trydan.


Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: