Mae’r Athro Paul Badham (ganwyd 26 Medi 1942) yn Athro emeritws Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant.

Paul Badham
Ganwyd26 Medi 1942 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiwinydd, ysgolhaig astudiaethau crefyddol, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Astudiodd Athro Badham Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac athroniaethau crefydd ym Mhrifysgolion Rhydychen (yn dechrau yng Ngholeg yr Iesu yn 1962) a Chaergrawnt, a chafodd PhD oddi wrth Brifysgol Birmingham.[1] Hyfforddodd e am offeiriadaeth yn Westcott House a gweithiodd e fel curad yn Birmingham am bum mlynedd cyn cymryd swydd fel darlithydd yn Llanbedr Pont Steffan yn 1973. Cafodd ei benodi’n Athro yn 1991 ac mae e wedi gweithio fel Pennaeth Adran, Pennaeth yr Ysgol a Deon y Gyfadran Diwinyddiaeth. Roedd e’n Gyfarwyddwyr ar yr Alister Hardy Religious Experience Research Centre o 2002 hyd at 2010.

Mae e’n Is-lywydd Modern Church, noddwr Dignity in Dying, a Chymrawd o Gymdeithas Frenhinol Meddygaeth. Roedd e’n olygydd Modern Believing a Chymrawd Ymchwil Hŷn Canolfan Wyddoniaeth a Chrefydd Ian Ramsey ym Mhrifysgol Rhydychen.[2]

Cyhoeddiadau

golygu
  • Making Sense of Death and Immortality (SPCK, 2013).
  • A John Hick Reader (Wipf & Stock, 2011).
  • Is there a Christian Case for Assisted Dying? (SPCK, 2009).
  • The Contemporary Challenge of Modernist Theology (University of Wales Press, 1998).
  • Facing Death, gyda Paul Ballard (University of Chicago Press, 1996).
  • Death and Immortality in the Religions of the World, gyda Linda Badham (Paragon House, 1987).
  • Christian Beliefs about Life after Death (MacMillan, 1976).

Cyfeiriadau

golygu
  1. Appointments 1992. Cofnodion Coleg yr Iesu: 54. 1993/4.
  2. "Proffil ar wefan Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-04. Cyrchwyd 2014-01-10.