Paul Klee

arlunydd o'r Swistir (1879-1940)

Roedd Paul Klee (18 Rhagfyr 187929 Mehefin 1940) yn arlunydd Swisaidd-Almaenaidd a fu'n aelod o'r grŵp Blaue Reiter ac yn athro yng ngholeg celf enwog y Bauhaus. Bu ei waith unigryw yn nodweddiadol am eu defnydd ac am ddatblygu'r cysyniad o liw ac mae ei lyfr Ysgrifau ar Ffurf a Chynllunio (Schriften zur Form und Gestaltungslehre) yn cael eu hystyried mor bwysig a gwaith Leonardo da Vinci: y Codex Urbinas a'i ddylanwad aruthrol ar y Dadeni Dysg.[1][2][3] Mae holl waith Paul Klee yn adlewyrchu ei hiwmor sych a'i berspectif plentynnaidd o fywyd yn ogystal â'i hoffter o gerddoriaeth a'i anwadalrwydd fel person.[4]

Paul Klee
Ganwyd18 Rhagfyr 1879 Edit this on Wikidata
Münchenbuchsee Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mehefin 1940 Edit this on Wikidata
Muralto Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prwsia, Y Swistir Edit this on Wikidata
Alma mater
  • State University of Music and Performing Arts Stuttgart
  • Academi Celfyddydau Cain, Munich Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, academydd, artist, arlunydd graffig, lithograffydd, cynllunydd, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, drafftsmon Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Kunstakademie Düsseldorf Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSumpflegende, Twittering Machine, Angelus Novus Edit this on Wikidata
Arddullcelf haniaethol, geometric abstraction Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadJames Ensor, Pablo Picasso, Artistry of the Mentally Ill Edit this on Wikidata
MudiadMynegiadaeth, Swrealaeth, pwyntiliaeth, Bauhaus, Peintio Maes Lliw Edit this on Wikidata
PriodLily Klee Edit this on Wikidata
llofnod

Dyddiau cynnar golygu

 
Senecio, 1922

Ganwyd Klee ym Münchenbuchsee, yn agos i dref Bern yn y Swistir; ei dad yn Almaenwr ac yn athro cerddoriaeth, ei fam yn Swiswraig ac yn gantores. O dan ddylanwad ei rhieni bu'r Paul Klee ifanc yn gerddor addawol ond ddatblygodd ei ddiddordeb mewn celf ac yn 1896 fe'i dderbyniwyd i Sefydliad Celf Gain München.

Peintiodd mewn olew, dyfrlliw, inc a chyfryngau eraill, gan yn aml eu cyfuno yn yr un darlun. Roedd ei waith yn aml yn cyfeirio at farddoniaeth, cerddoriaeth a breuddwydion, weithiau'n cynnwys geiriau neu nodiadau caneuon.

Ar ôl graddio o'r coleg celf teithiodd i'r Eidal, ac wrth ddychwelyd i München cyfarfu â Wassily Kandinsky, Franz Marc, August Macke ac arlunwyr avant-garde eraill a ffurfiodd grŵp celfyddydol y Blaue Reiter (y marchog glas);[5] bu rhain yn ddylanwad mawr ar Fynegiadaeth (Expressionism) Almaeneg yn ddiweddarach. Er nad oedd Klee yn aelod llawn o'r Blaue Reiter arddangosodd ei waith gyda nhw a rhannodd eu diddordeb mewn celf Gothig a mudiadau cyfoes fel Fauve a Chiwbiaeth.

Bu'n rhaid i Klee ymuno â byddin Yr Almaen pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ond nid anfonwyd ef i'r ffrynt. Ond laddwyd Marc a Macke yn y Rhyfel a bu rhaid i Kandinsky ddychwelyd i Rwsia. Cafodd marwolaeth ei ffrindiau effaith mawr arno fel y gwelir mewn gweithiau fel Marwolaeth i'r Syniad (1915).[6]

 
Paul Klee fel milwr, 1916

Teithiau golygu

 
Y Tŷ Troi , 1921

Ym 1914 ymwelodd â Tiwnis (Tiwnisia) a fu'n hynod o bwysig yn natblygiad ei waith. Yno fe'i syfrdanwyd gan ansawdd a chryfder y golau. Ysgrifennodd yn ei ddyddiadur personol: Mae'r lliw wedi cymryd troseddaf, does dim rhaid imi chwilio amdano, dw i'n gwybod y bydd yn gafael ynof am byth... mae lliw a minnau yr un peth.

Ar ôl dychwelyd o Tiwnis peintiodd ei lun haniaethol cyntaf - Im Stil von Kairoua ("Yn Arddull Kairouan), sydd yn gyfres o gylchoedd a sgwariau lliw. Daeth y sgwâr lliw yn sylfaen i'w waith diweddarach – pob sgwâr a phob lliw yn cyfateb i nodyn cerddorol a'i gynfasau'n cyfateb i gyfansoddiadau cerddorol. Ymwelodd â'r Eidal yn 1901 ac a'r Aifft ym 1928.[7]

Bauhaus golygu

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf penodwyd Klee yn athro yn y Bauhaus - coleg celf, cynllunio a phensaernïaeth enwoca'r Almaeneg rhwng 1919 a 1933, coleg a fu'n ddylanwad aruthrol ar ddyluniad modern yn ystod ail hanner yr 20g.

Daeth y Natsïaid i rym yn yr Almaen ym 1933 gan orfodi'r Bauhaus i gau eu drysau a chondemniwyd gwaith Klee a llawer o arlunwyr eraill yn hallt, gan eu galw'n 'gelf ddirywiedig' (degenerate art). Fel llawer o arlunwyr modern eraill yr Almaen bu'n rhaid i Klee ddianc o'r wlad er mwyn osgoi cael ei garcharu neu hyd yn oed eu lladd.[7]

Alltud golygu

Ym 1933 dychwelodd Klee i'r Swistir ble bu'n byw hyd ddiwedd ei fywyd ym 1940. Bu'n hynodo o weithgar yn y Swistir er gwaethaf salwch ar ddiwedd ei oes. Gadwodd Klee dros 9,000 o weithiau.

Klee a lliw golygu

Cyn ei daith i Tiwnis credodd Klee nad oedd lliw yn bwysig ond datblygodd i fod yr elfen bwysicaf yn ei waith. Wedi Tiwnis defnyddiodd Klee liw mewn ffyrdd amrywiol ac unigryw gan ddatblygu ac ymestyn ei dechnegau o hyd.

Yn y Bauhaus dysgodd theori liw i'r myfyrwyr ac ysgrifennodd amdo'n helaeth. Ystyrir ei Schriften zur Form und Gestaltungslehre (Ysgrifennu am ffurf a Theori Cynllunio) yn gyfraniad sylweddol i ddatblygiad a dealltwriaeth o liw mewn celf fodern.[7]

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Disegno e progettazione By Marcello Petrignani p.17
  2. Guilo Carlo Argan "Preface", Paul Klee, The Thinking Eye, (ed. Jürg Spiller), Lund Humphries, London, 1961, p.13.
  3. The private Klee: Works by Paul Klee from the Bürgi Collection Archifwyd 2009-10-09 yn y Peiriant Wayback. Scottish National Gallery of Modern Art, Edinburgh, 12 August - 20 October 2000
  4. http://www.paulkleezentrum.ch/ww/en/pub/web_root/act/wissenschaftliches_archiv/biografie/schweizer_ohne_roten_pass.cfm Archifwyd 2006-07-18 yn y Peiriant Wayback. sobre la ciudadania suiza otorgada posteriormente a su muerte
  5. Katharina Erling: Der Almanach Der Blaue Reiter, in: Hopfengart (2000)
  6. A ymddangosodd wrth ochr cerdd Gerg Traki yn 'Zeit-Echo' 1915.
  7. 7.0 7.1 7.2 Partsch, Susanna (2007). Klee. Cologne: Benedikt Taschen. ISBN 978-3-8228-6361-9.

Dolenni allanol golygu