Pedair camp ar hugain
Y pedair camp ar hugain oedd un o orchestion yr hen Gymry mewn gwyliau megis Gŵyl Fabsant.
Yn ei lyfr Dictionarum Duplex (Geirlyfr Lladin a Chymraeg) (1632) mae'r Dr John Davies o Fallwyd yn eu rhestru fel a ganlyn:
- Campau corfforol:
- 1. cryfder
- 2. rhedeg
- 3. neidio
- 4. nofio
- 5. ymafael
- 6. marchogaeth
- 7. saethu
- 8. chwarae cleddyf a bwcled
- 9. chwarae cleddau deuddwr
- 10. chwarae ffon ddwybig
- Campau yn ymwneud â hela:
- 11. hela â milgi
- 12. hela pysg
- 13. hela aderyn
- Campau a ystyrid yn ddiwylliannol:
- 14. barddoniaeth
- 15. canu telyn
- 16. darllen Cymraeg
- 17. tynnu arfau
- 18. herodraeth
- 19. canu cywydd gan dant
- 20. canu cywydd pedwar ac acennu
- Campau a elwid yn ‘gogampau’ a oedd yn ymwneud â chwarae gemau:
- 21. chwarae gwyddbwyll
- 22. chwarae tawlbwrdd
- 23. chwarae ffristial
- 24. cyweirio telyn.