Pedol yr Wyddfa
Pedol yr Wyddfa yw'r enw a roir i'r daith i gopa'r Wyddfa sy'n cynnwys y copaon eraill o gwmpas copa'r Wyddfa ei hun.
Math | llwybr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.075703°N 4.073555°W |
Mae'r llwybr yn dechrau o Ben-y-pas. Y dull arferol o ddechrau'r bedol yw dringo llethrau Crib Goch (923 m) gyntaf. Dylid dilyn Llwybr Pen y Gwryd cyn belled a Bwlch y Moch, lle mae'r llwybr i'r Grib Goch yn fforchio i'r dde. O gopa Crib Goch rhaid dilyn crib gul, gyda dibyn ar y ddwy ochr, i gopa Carnedd Ugain (1,065 m). Oddi yno, mae llwybr gweddol hawdd i gopa'r Wyddfa ei hun. Wedi mynd i lawr ffordd fer tuag at Fwlch Main a throi i'r chwith i lawr y llechwedd sgri i Fwlch y Saethau, mae'r llwybr yn esgyn o gopa'r Lliwedd (898 m) cyn dychwelyd i Ben-y-pas.
Mewn tywydd da nid yw'r daith, sy'n cymryd tua chwech awr fel rheol, yn beryglus, er bod angen gofal ar y grib rhwng Crib Goch a Charnedd Ugain. Os yw'r tywydd yn wlyb neu'n wyntog mae angen gofal mawr, a phan mae eira ar y mynyddoedd mae'n addas i ddringwyr profiadol gyda'r offer angenrheidiol yn unig.