Pedair camp ar hugain

(Ailgyfeiriad o Pedwar camp ar hugain)

Y pedair camp ar hugain oedd un o orchestion yr hen Gymry mewn gwyliau megis Gŵyl Fabsant.

Yn ei lyfr Dictionarum Duplex (Geirlyfr Lladin a Chymraeg) (1632) mae'r Dr John Davies o Fallwyd yn eu rhestru fel a ganlyn:

  • Campau corfforol:
1. cryfder
2. rhedeg
3. neidio
4. nofio
5. ymafael
6. marchogaeth
7. saethu
8. chwarae cleddyf a bwcled
9. chwarae cleddau deuddwr
10. chwarae ffon ddwybig
  • Campau yn ymwneud â hela:
11. hela â milgi
12. hela pysg
13. hela aderyn
  • Campau a ystyrid yn ddiwylliannol:
14. barddoniaeth
15. canu telyn
16. darllen Cymraeg
17. tynnu arfau
18. herodraeth
19. canu cywydd gan dant
20. canu cywydd pedwar ac acennu
  • Campau a elwid yn ‘gogampau’ a oedd yn ymwneud â chwarae gemau:
21. chwarae gwyddbwyll
22. chwarae tawlbwrdd
23. chwarae ffristial
24. cyweirio telyn.