Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1884

Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1884 oedd yr ail yn y gyfres o Bencampwriaethau'r Pedair Gwlad rygbi'r undeb. Chwaraewyd chwe gêm rhwng 5 Ionawr a 12 Ebrill 1884. Ymladdwyd hi ganLoegr, Iwerddon, Yr Alban a Chymru.

Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1884
E T Gurdon Capten Lloegr
Dyddiad5 Ionawr – 12 Ebrill 1884
Gwledydd Lloegr
 Iwerddon
 yr Alban
 Cymru
Ystadegau'r Bencampwriaeth
Pencampwyr Lloegr (2il tro)
Y Goron Driphlyg Lloegr (2il Deitl)
Cwpan Calcutta Lloegr
Gemau a chwaraewyd6
Sgoriwr y nifer fwyaf
o bwyntiau
Berry (2)
Bolton (2)
1883 (Blaenorol) (Nesaf) 1885

Enillodd Lloegr y bencampwriaeth am yr ail dymor yn olynol ac wrth guro'r tair gwlad arall enillodd Y Goron Driphlyg am yr eildro.

Roedd y Bencampwriaeth hon yn fwyaf nodedig am anghydfod a gododd o'r gêm rhwng Lloegr a'r Alban, pan wrthwynebwyd cais buddugol Lloegr gan yr Albanwr. Roedd y timau’n anghytuno â’r dehongliad o ddeddf taro ymlaen y sgoriodd Richard Kingsley o Loegr ohoni a dywedwyd wrth yr Alban i dderbyn y penderfyniad, a gwrthodwyd eu cais am apêl gan Loegr. Arweiniodd y teimladau chwerw a achoswyd gan y sefyllfa hon at greu'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ym 1886, i greu corff derbyniol o reolau y byddai'r holl aelodau'n cytuno iddynt.

Tabl golygu

Safle Gwlad Gemau Pwyntiau Pwyntiau
tabl
Chwarae Ennill Cyfartal Colli Dros Yn erbyn Gwahan.
1   Lloegr 3 3 0 0 3 1 +2 6
2   yr Alban 3 2 0 1 3 1 +2 4
3   Cymru 3 1 0 2 2 2 0 2
4   Iwerddon 3 0 0 3 0 4 −4 0

Canlyniadau golygu

5 Ionawr 1884
Lloegr   (2 Gais) 1–1 (0 Cais)   Cymru
12 Ionawr 1884
Cymru   0–1   yr Alban
4 Chwefror 1884
Iwerddon   0–1   Lloegr
16 Chwefror 1884
yr Alban   2–0   Iwerddon
1 Mawrth 1884
Lloegr   1–0   yr Alban
12 Ebrill 1884
Cymru   1–0   Iwerddon

System sgorio golygu

Penderfynwyd canlyniad y gemau ar gyfer y tymor hwn ar y goliau a sgoriwyd. Dyfarnwyd gôl ar gyfer trosiad llwyddiannus ar ôl cais, ar gyfer gôl adlam neu ar gyfer gôl o farc. Pe bai nifer y goliau'n gyfartal, byddai unrhyw geisiadau heb eu trosi yn cael eu cyfri i ganfod enillydd. Os nad oedd enillydd clir o gyfrir ceisiadau, cyhoeddwyd bod yr ornest yn gêm gyfartal..

Y gemau golygu

Lloegr v. Cymru golygu

5 Ionawr 1884
Lloegr   1 Gôl, 2 Gais – 1 Gôl   Cymru
Cais:Rotherham
Twynam
Wade
Trosiad: Bolton
Cais: Allen
Trosiad: Lewis
Cardigan Fields, Leeds
Maint y dorf: 2,000
Dyfarnwr: JA Gardner (Yr Alban)

Lloegr: Henry Tristram (Prifysgol Rhydychen), Charles Wade (Prifysgol Rhydychen), Charles Chapman (Prifysgol Caergrawnt), Wilfred Bolton (Blackheath), [[Alan Rotherham (Prifysgol Rhydychen), Henry Twynam (Richmond), James T Hunt (Manceinion), Charles Wooldridge (Blackheath), Charles Marriott (Prifysgol Caergrawnt), Herbert Fuller (Prifysgol Caergrawnt), Edward Strong (Prifysgol Rhydychen), William Tatham (Prifysgol Rhydychen), Robert Henderson (Blackheath), Charles Gurdon (Richmond), ET Gurdon (Richmond) capt.

Cymru: Charles Lewis (Coleg Llanymddyfri), Charles Peter Allen (Prifysgol Rhydychen), William Norton (Caerdydd), Charles Taylor (Rhiwabon), Charlie Newman (Casnewydd) capt., William Gwynn (Abertawe), William David Phillips (Caerdydd), John Sidney Smith (Caerdydd), Joe Simpson (Caerdydd) Tom Clapp (Casnewydd), Bob Gould (Casnewydd), Horace Lyne (Casnewydd), Frederick Margrave (Llanelli), Fred Andrews (Abertawe), George Morris (Abertawe)

Y gêm hon oedd y gêm ryngwladol rygbi'r undeb gyntaf i gael ei chwarae yn Swydd Efrog a'r drydedd gêm rhwng y ddwy wlad. Er i Gymru golli'r gêm o ddau gais, roedd y canlyniad yn welliant enfawr ar ei dau gyfarfod blaenorol, gyda Chymru yn sgorio ei chais cyntaf yn erbyn Lloegr. Daeth y cais gan Charles Peter Allen, ac fe’i troswyd gan Charles Lewis a oedd hefyd yn is-lywydd Undeb Rygbi Cymru. Dominyddwyd y chware Saesneg gan Wade a Bolton, gan barhau â'u chwarae cryf o'r Bencampwriaeth flaenorol; Sgoriodd Wade gais tra sefydlwyd sgôr Rotherham ar ôl rhediad 75 llath o Bolton.[1]


Cymru v. Yr Alban golygu

12 Ionawr 1884
Cymru   dim – 1 Cais, 1 Gôl adlam   yr Alban
Cais: Ainslie
Gôl adlam: Asher
Rodney Parade, Casnewydd
Maint y dorf: 2,000
Dyfarnwr: JS McLaren (Lloegr)
 
Charles Prytherch Lewis

Cymru: Charles Lewis (Coleg Llanymddyfri), Charles Peter Allen (Prifysgol Rhydychen), William Norton (Caerdydd), Charles Taylor (Rhiwabon), Charlie Newman (Casnewydd) capt., William Gwynn (Abertawe), William David Phillips (Caerdydd), Thomas Baker Jones (Casnewydd), Joe Simpson (Caerdydd) Tom Clapp (Casnewydd), Bob Gould (Casnewydd), Horace Lyne (Casnewydd), Frederick Margrave (Llanelli), Fred Andrews (Abertawe), George Morris (Abertawe)

Yr Alban: JP Veitch (Royal HSFP), Bill Maclagan (London Scottish) capt., DJ Macfarlan (London Scottish), George Campbell Lindsay (Fettesian-Lorettonians), Andrew Ramsay Don-Wauchope (Fettesian-Lorettonians), AGG Asher (Prifysgol Rhydychen), T Ainslie (Edinburgh Inst FP), JB Brown (Glasgow Acads), John Jamieson (West of Scotland), R Maitland (Edinburgh Inst FP), WA Peterkin (Edinburgh University), C Reid (Edinburgh Acads), D. Somerville (Edinburgh Inst FP), J Tod (Watsonians), WA Walls (Glasgow Acads)

Arweiniodd yr ail gyfarfod rhwng y ddau dîm at fuddugoliaeth arall i'r Alban.[2] Roedd Cymru yn anghytuno â dwy sgôr yr Alban yn y gêm hon, ond roedd hynny'n ddigwyddiad cyffredin. Rhedodd chwaraewr Cymru, William Gwynn, y bêl dros y llinell, ond yn lle cyffwrdd i lawr am gais fe edrychodd am gefnogaeth a chafodd ei daclo. Roedd tri swyddog yn y gêm yn swyddogion o dri undeb rygbi gwahanol; y dyfarnwr oedd James MacLaren, Llywydd yr RFU a'r swyddogion llinell oedd Richard Mullock, ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru a JA Gardener, ysgrifennydd yr Undeb Rygbi'r Alban.[3]


Iwerddon v. Lloegr golygu

4 Chwefror 1884
Iwerddon   dim – 1G   Lloegr
Cais: Bolton
Trosiad: Sample
Lansdowne Road, Dulyn
Dyfarnwr: JS Laing (Yr Alban)

Iwerddon: JWR Morrow (Queen's College, Belfast), RE McLean (NIFC), RH Scovell (Prifysgol Dulyn), DJ Ross (Belfast Albion), M Johnston (Dublin University), WW Higgins (NIFC), SAM Bruce (NIFC), FH Levis (Wanderers), HM Brabazon (Prifysgol Dulyn), DF Moore (Wanderers), JBW Buchanan (Prifysgol Dulyn), JA McDonald (Methodist College, Belfast) capt., RW Hughes (NIFC), WG Rutherford (Tipperary), OS Stokes (Cork Bankers)

Lloegr: CH Sample (Prifysgol Caergrawnt), Herbert Fallas (Wakefield Trinity), H Wigglesworth (Thornes), WN Bolton (Blackheath), JH Payne (Broughton), HT Twynam (Richmond), GT Thomson (Halifax), CS Wooldridge (Blackheath), CJB Marriott (Prifysgol Caergrawnt), A Teggin (Broughton), EL Strong (Prifysgol Rhydychen), WM Tatham (Prifysgol Rhydychen), H Bell (New Brighton), A Wood (Halifax), ET Gurdon (Richmond) capt.


Yr Alban v. Iwerddon golygu

16 Chwefror 1884
yr Alban   2 Gôl, 2 Gais – 1 Cais   Iwerddon
Cais: Peterkin
Tod
Don-Wauchope
Asher
Trosiad: Berry (2)
Cais: McIntosh
Raeburn Place, Edinburgh
Maint y dorf: 6,000
Dyfarnwr: George Rowland Hill (England)
 
Bill Maclagan, Capten Yr Alban

Yr Alban: JP Veitch (Royal HSFP), Bill Maclagan (London Scottish) capt., DJ Macfarlan (London Scottish), ET Roland (Edinburgh Wanderers), Andrew Ramsay Don-Wauchope (Fettesian-Lorettonians), AGG Asher (Prifysgol Rhydychen), Thomas Ainslie (Edinburgh Inst FP), JB Brown (Glasgow Acads), John Jamieson (West of Scotland), D McCowan (West of Scotland), WA Peterkin (Edinburgh University), Charles Reid (Edinburgh Acads), CW Berry (Fettesian-Lorettonians), J Tod (Watsonians), WA Walls (Glasgow Acads)

Iwerddon: JM O'Sullivan (Limerick), RE McLean (NIFC), GH Wheeler (Queen's College, Belfast), LM MacIntosh (Prifysgol Dulyn), M Johnston (Dublin University), WW Higgins (NIFC), W Kelly (Wanderers), THM Hobbs (Dublin University), A Gordon (Dublin University), JF Maguire (Cork), JBW Buchanan (Dublin University), JA McDonald (Methodist College, Belfast) capt., RW Hughes (NIFC), WG Rutherford (Lansdowne), J Johnston (NIFC)


Lloegr v. Yr Alban golygu

1 Mawrth 1884
Lloegr   1 Gôl – 1 Cais   yr Alban
Cais: Kindersley
Trosiad: Bolton
Cais: Jamieson
Rectory Field, Blackheath
Maint y dorf: 8,000
Dyfarnwr: G Scriven (Iwerddon)

Lloegr: HB Tristram (Prifysgol Rhydychen), CG Wade (Prifysgol Rhydychen), Arthur Evanson (Richmond), WN Bolton (Blackheath), A Rotherham (Prifysgol Rhydychen), HT Twynam (Richmond), GT Thomson (Halifax), CS Wooldridge (Blackheath), CJB Marriott (Prifysgol Caergrawnt), RS Kindersley (Prifysgol Rhydychen), EL Strong (Prifysgol Rhydychen), WM Tatham (Prifysgol Rhydychen), RSF Henderson (Blackheath), Charles Gurdon (Richmond), ET Gurdon (Richmond) (capt.)

Yr Alban: JP Veitch (Royal HSFP), Bill Maclagan (London Scottish) capt., DJ Macfarlan (London Scottish), ET Roland (Edinburgh Wanderers), Andrew Ramsay Don-Wauchope (Fettesian-Lorettonians), AGG Asher (Prifysgol Rhydychen), T Ainslie (Edinburgh Inst FP), JB Brown (Glasgow Acads), John Jamieson (West of Scotland), D McCowan (West of Scotland), WA Peterkin (Prifysgol Caeredin), C Reid (Edinburgh Acads), CW Berry (Fettesian-Lorettonians), J Tod (Watsonians), WA Walls (Glasgow Acads)


Cymru v Iwerddon golygu

12 Ebrill 1884
Cymru   2 Gais, 1 Gôl Adlam – dim   Iwerddon
Cais: Norton
Clapp
Gôl adlam: Stadden
Parc yr Arfau, Caerdydd
Dyfarnwr: G R Hill

Cymru: Tom Barlow (Caerdydd), Frank Hancock (Caerdydd), William Norton (Caerdydd), Charles Taylor (Rhiwabon), William Stadden (Caerdydd), William Gwynn (Abertawe), William David Phillips (Caerdydd), John Sidney Smith (Caerdydd), Joe Simpson (Caerdydd) capt., Tom Clapp (Casnewydd), Bob Gould (Casnewydd), Horace Lyne (Casnewydd), Buckley Roderick (Llanelli), Samuel Goldsworthy (Abertawe), John Hinton (Caerdydd)

Iwerddon: JWR Morrow (Queen's College, Belfast), Charles Jordan (Casnewydd),J Pedlaw (Bessbrook), Henry Spunner (Wanderers), AJ Hamilton (Lansdowne), HG Cook (Lansdowne), DF Moore (Wanderers) capt., FW Moore (Wanderers), JM Kennedy (Wanderers), WS Collis (Wanderers), J Fitzgerald (Wanderers), W Hallaran, Lambert Moyers (Dublin Uni.), WE Johnston (Dublin Uni.), Harry McDaniel (Casnewydd)

Pan gyrhaeddodd Iwerddon Gymru ar gyfer cyfarfod 1884 roeddent ddau chwaraewr yn brin. Er mwyn caniatáu i'r gêm ddigwydd, darparwyd eilyddion Cymreig heb eu capio. Aeth Charles Jordan a Harry McDaniel, y ddau o Glwb Rygbi Casnewydd, i'r cae fel chwaraewyr Iwerddon,[4] er bod adroddiadau cyfoes yn parhau i restru'r chwaraewyr Gwyddelig gwreiddiol a ddewiswyd: Ernest Greene a Robert Gibson Warren.


Rhagflaenydd
Y Pedair Gwlad 1883
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad
1884
Olynydd
Y Pedair Gwlad 1885

Llyfryddiaeth golygu

  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. London: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. London: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.

Cyfeiriadau golygu

  1. "GREAT INTERNATIONAL FOOTBALL MATCH IN LEEDS - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1884-01-08. Cyrchwyd 2020-06-14.
  2. "GRAND FOOTBALL MATCH AT NEWPORT - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1884-01-18. Cyrchwyd 2020-06-14.
  3. Godwin (1984), tud 6.
  4. "FOOTBALL - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1884-04-14. Cyrchwyd 2020-06-14.