Penrhyn Wrath
Penrhyn anghysbell yng ngogledd yr Alban yw Penrhyn Wrath (Saesneg: Cape Wrath, Gaeleg yr Alban: Am Parbh). Dyma bwynt mwyaf gogleddol gogledd-orllewin yr Alban, er nad yw mor ogleddol â John O'Groats i'r dwyrain. Gorwedd Penrhyn Wrath yn ardal Sutherland yn Ucheldiroedd yr Alban.
Math | pentir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor yr Ucheldir |
Gwlad | Yr Alban |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 58.625°N 5.002°W |
Codwyd goleudy yno yn 1828 i rybuddio llongau am y berygl o ddryllio ar greigiau'r clogwynni syrth sy'n codi o'r môr i uchder o hyd at 800 troedfedd o gwmpas y penrhyn.