Pentir sialc yn Nwyrain Sussex, De-ddwyrain Lloegr, yw Pentir Beachy[1] (Saesneg: Beachy Head). Fe'i lleolir yn agos i Eastbourne, yn union i'r dwyrain o'r Saith Chwaer. Fe'i ffurfiwyd lle mae'r Twyni Deheuol wedi'u herydu gan y Môr Udd.

Pentir Beachy
Mathpentir, penrhyn Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDwyrain Sussex
Daearyddiaeth
Ardal warchodolSouth Downs National Park Edit this on Wikidata
SirDwyrain Sussex
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
GerllawMôr Udd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.7375°N 0.2475°E Edit this on Wikidata
Map

Y pentir yw'r clogwyn môr sialc uchaf ym Mhrydain, sy'n codi i 162 m (531 troedfedd) uwchben lefel y môr. Oherwydd ei uchder a'i unigrwydd, mae wedi dod yn enwog fel lleoliad hunanladdiad.

Pentir Beachy gyda'r goleudy ar y creigiau isod

Cyfeiriadau golygu

  1. Yr Atlas Cymraeg Newydd (CBAC, 1999)
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.