Peredur Owen Griffiths
Gwleidydd o Gymro yw Peredur Owen Griffiths (ganwyd Hydref 1978) ac aelod o Blaid Cymru. Mae wedi gwasanaethu fel Aelod o’r Senedd (AS) dros ranbarth Dwyrain De Cymru ers etholiad Senedd 2021 . [1]
Peredur Owen Griffiths AS | |
---|---|
![]() | |
Aelod o'r Senedd dros Dwyrain De Cymru | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 8 Mai 2021 | |
Manylion personol | |
Ganed | Hydref 1978 (46 oed) |
Plaid gwleidyddol | Plaid Cymru |
Bywgraffiad
golyguYn fab i weinidog, bu Peredur yn byw mewn sawl rhan gwahanol o Gymru cyn iddo gychwyn yn yr ysgol uwchradd. Aeth i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Sheffield. Fel myfyriwr cafodd swydd mewn banc, ac ar ôl cwblhau ei radd, cafodd ei ddyrchafu yn Reolwr Banc i Santander. Symudodd yn ôl i Gymru i gwblhau ei hyfforddiant.
Tra gyda Santander, gweithiodd mewn canghennau ledled de Cymru, gan gynnwys Casnewydd, Trefynwy, Caerffili, Merthyr Tudful, y Coed Duon, Cwmbrân, y Barri, Tonypandy, a Chaerdydd. Cafodd swydd wedyn gyda Chymdeithas Adeiladu'r Principality. Gweithiodd ledled Cymru, yn y sector morgeisi, mewn rôl fel brocer a benthyciwr gan ddatblygu profiad yn sector tai Cymru.
Ar ôl 13 mlynedd yn y sector ariannol, yn 2015 ymunodd â Chymorth Cristnogol fel Cydlynydd Rhanbarthol De Cymru a Swyddog Ewyllysiau Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn ymunodd hefyd â Bwrdd Cyfarwyddwyr ‘Displaced People in Action’, elusen sy'n gweithio gyda ffoaduriaid. Wedyn bu'n gweithio i Cytûn: Eglwysi ynghyd yng Nghymru.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Welsh election results 2021: Mark Drakeford set to stay as first minister". BBC News. 8 May 2021. Cyrchwyd 8 May 2021.
- ↑ Ymgeisydd - Peredur Owen Griffiths. Plaid Cymru - Blaenau Gwent. Adalwyd ar 12 Mai 2021.