Dyfais feddygol yw pesari a ddodir yn y wain i drin cwymp y groth, gwrthdroad y groth, neu ddiffyg ceg y groth. Defnyddir i drin menywod sy'n rhy hen neu'n rhy sâl i gael llawdriniaeth, ac mewn menywod ifainc wrth drin diffyg ceg y groth yn ystod beichiogrwydd ac archwilio symptomau gwrthdroad y groth.[1]

Casgliad o besarïau.

Mathau golygu

Pesari Smith-Hodge golygu

Petryal gwifren wedi ei orchuddio gan rwber neu finyl yw pesari Smith-Hodge, a osodir rhwng asgwrn y piwbis ac ôl-fwa'r wain, gan sicrhau lleoliad y groth a cheg y groth.[1]

Pesari Gellhorn golygu

Cynhyrchir pesari Gellhorn o resin acrylig neu blastig persbecs ar ffurf botwm coler mawr, anhyblyg. Mae pibell trwy'r goes yn draenio hylifau'r wain trwy agoriad y wain.[1]

Pesari toesen golygu

Defnyddir pesari wedi chwyddo mewn siâp toesen i gynnal y groth trwy flocio'r wain.[1]

Pesari chwyddadwy golygu

Mae'r pesari chwyddadwy yn debyg i'r pesari toesen, ond gellir ei ddatchwyddo. Dodir i mewn i'r wain heb ei chwyddo, ac yna caiff ei chwyddo trwy falf i'w ddefnyddio, a'i ddatchwyddo cyn ei gymryd allan.[1]

Pesari cell gwenynen golygu

Ciwb rwber meddal yw'r pesari cell gwenynen, sydd efo phant conigol ar bob wyneb sy'n gweithredu fel cwpan sugno yn y wain.[1]

Pesari diaffram/Pesari gwrthgenhedlol golygu

Gellir cael pesari sydd hefyd yn ddiaffram, dull atal cenhedlu.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Mosby's Medical Dictionary (St Louis, Missouri, Mosby Elsevier, 2009 [wythfed argraffiad]), t. 1435. ISBN 978-0323052900
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: diffyg ceg y groth, ôl-fwa'r wain o'r Saesneg "cervical incompetence, posterior vaginal fornix". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.