Peswch cenel
Mae peswch cenel (hefyd yn cael ei adnabod fel tracheobronchitis heintus cynol) yn haint anadlol uwch sy'n effeithio ar gŵn.[1] Mae'n gallu cael ei achosi gan sawl peth, a'r mwyaf cyffredin yw'r bacteriwm Bordetella bronchiseptica (sef yr achos mewn tua 80% o achosion yn ne yr Almaen), yna'r feirws parainffliwensa cynol (37.7% o achosion), ac i raddau llai y coronafeiws cynol (9.8% o achosion).[2] Mae'n ymledol tu hwnt,[3] ond gall cŵn arddangos imiwnedd i ailheintio hyd yn oed os ydynt yn dod i gysylltiad yn barhaus.[4] Mae'n cael ei alw'n 'peswch cenel' am fod yr haint yn gallu lledu yn gyflym ymhlith gwn sy'n agos i'w gilydd mewn cenel neu loches i gŵn.
Meicrograff electron sganio yn dangos nifer o facteria Bordetella bronchiseptica, un o brif achosion peswch cenel | |
Math o gyfrwng | clefyd cŵn |
---|---|
Math | haint yn yr uwch-pibellau anadlu |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Crawford, Cynda (September 26, 2005). "Media Briefing on Canine Influenza". Media Relations, Centers for Disease Control and Prevention. Cyrchwyd 2012-01-24.
- ↑ Schulz, BS; Kurz, S; Weber, K; Balzer, HJ; Hartmann, K (September 2014). "Detection of respiratory viruses and Bordetella bronchiseptica in dogs with acute respiratory tract infections". Veterinary journal 201 (3): 365–369. doi:10.1016/j.tvjl.2014.04.019. PMID 24980809.
- ↑ Ettinger, Stephen J.; Feldman, Edward C. (1995). Textbook of Veterinary Internal Medicine (arg. 4th). W.B. Saunders Company. ISBN 0-7216-6795-3.
- ↑ Bemis, DA; Carmichael, LE; Appel, MJ (April 1977). "Naturally occurring respiratory disease in a kennel caused by Bordetella bronchiseptica". The Cornell Veterinarian 67 (2): 282–293. PMID 870289.