Picellwr pedwar nod

gwas neidr
Picellwr pedwar nod
Gwryw
Benyw
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Teulu: Libellulidae
Genws: Libellula
Rhywogaeth: L. quadrimaculata
Enw deuenwol
Libellula quadrimaculata
Linnaeus, 1758

Gwas neidr o deulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr') yw'r Picellwr pedwar nod (Lladin: Libellula quadrimaculata; lluosog: picellwyr pedwar nod). Dyma'r teulu mwyaf o weision neidr drwy'r byd, gyda dros 1,000 o rywogaethau gwahanol. Mae'r Picellwr pedwar nod i'w ganfod yn Ewrop, Asia, a Gogledd America, lle caiff ei adnabod dan yr enw four-spotted skimmer'. Mae'r L. quadrimaculata hefyd i'w gael yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys rhannau o Gymru.

Hyd ei adenydd yw 48mm ac mae'n hedfan rhwng Ebrill a Medi yng Nghymru a rhwng Mai ac Awst yn Iwerddon. Gwelir yr oedolyn fel arfer ger llwyni, coed, llysdyfiant a phlanhigion eraill ar lanau llynnoedd llonydd a phyllau dŵr. Mae'n cymryd dwy flynedd i'r larfa (neu'r cynrhonyn) aeddfedu i'w llawn dwf. Pryfetach o bob math yw bwyd yr oedolyn.[1]

Y Picellwr pedwar nod yw pryfyn cenedlaethol Alaska.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.shgresources.com/ak/symbols/insect/ Archifwyd 2009-01-07 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd Chwefror 2010
  2. "FAQ ALASKA - Frequently Asked Questions About Alaska". sled.alaska.edu. 17 Ionawr 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-10. Cyrchwyd 28 Ionawr 2010.

Dolen allanol golygu