Pier Aberystwyth
Pier Aberystwyth (Saesneg: Aberystwyth Royal Pier) oedd y pier gyntaf i'w agor yng Nghymru a hynny yn 1865. Wedi cyfres o ymosodiadau gan stormydd, mae'r pier gyfredol yn fersiwn byrrach o'r adeilad wreiddiol, a oedd yn 242 metr.
Math | pier |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberystwyth |
Sir | Aberystwyth |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 0.1 metr |
Cyfesurynnau | 52.4159°N 4.0878°W |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Adeiladu
golyguYn ystod canol 19g datblygodd Aberystwyth fel canolfan wyliau a cheisiwyd ei gwerthu fel y "Biarritz of Wales."[1] Comisiynodd consortiwm o fusnesau lleol o dan yr enw Aberystwyth Promenade Pier Company i'r peiriannydd Eugenius Birch, gynllunio ac adeiladu'r Pier ar y cyd â'r contractwyr lleol J.E. Dowson. Roedd gan y strwythur bracedi gwialen haearn, pentyrrau haearn bwrw a cholofnau ategol wedi'u crynhoi i'r graig. Cyfanswm y cost adeiladu oedd £13,600.[2]
Dyddiau Cynnar
golyguAgorwyd y Pier ar ddydd Gwener y Groglith yn 1865. Roedd yn rhaid i'r ymwelwyr dalu toll i gerdded arno a denwyd 7,000 o bobl ar y diwrod cyntaf hwnnw a oedd yn cyd-fynd gydag agoriad swyddogol llinell Reilffordd y Cambrian i Aberystwyth o Fachynlleth. Fodd bynnag, dyma oedd uchafbwynt y Pier dan ei berchnogion gwreiddiol - saith mis yn ddiweddarach, ym mis Ionawr 1866, achosodd storm fawr ddifrod difrifol a llusgwyd 30 metr (98 troedfedd) o ben pellaf y Pier i mewn i'r môr.[2]
Gan na allai'r perchnogion gwreiddiol fforddio ailosod yr adran a gollwyd, gwerthwyd y pier yn 1872. Disodlodd y perchnogion newydd y darn a gollwyd gydag adnewyddiad denheuach 70 metr (230 troedfedd) newydd, ac adeiladwyd oriel blaen newydd a chiosg lluniaeth.[2]
Ar ddiwedd y 19eg ychwanegwyd pafiliwn wydr newydd a gynlluniwyd gan Gordon Croydon-Marks ar y pen oedd ar y tir mawr. Codwyd hwn gan Bourne Engineering & Electrical Company, ac roedd yn cynnwys tair eil to gwydr, gyda'r gwaith haearn wedi'u haddurno mewn arddull Gothig. Gallai'r Pafiliwn newydd ddal 3,000 o bobl ac fe'i hagorwyd gan Dywysoges Cymru ar 26 Gorffennaf 1896.[2]
Y Pier yn 20g
golyguAr nos Wener 14 Ionawr 1938, tarodd storm gyda chyflymder gwynt hyd at 90 mya (140 km/h) tref Aberystwyth. Dinistriwyd y rhan fwyaf o'r Promenâd, ynghyd â 61m (200 troedfedd) o'r pier, gan ostwng ei hyd gan hanner. Cafodd nifer o eiddo ar lan y môr eu difrodi, gyda phob adeilad i'r gogledd o Neuadd y Brenin wedi e hefeithio a'r rheini ar Ffordd Fuddug (Victoria Rd) yn dioddef y difrod fwyaf. Dechreuodd y gwaith ar argae coffer amddiffynnol tan 1940, gyda chyfanswm costau adeiladu yn dod at £70,000 (sy'n cyfateb i £2.5m heddiw).[3]
Ystyriwyd bod risg diogelwch i'w ailadeiladu yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel iddi ei chadw ar gau. Ac, er i beth gwaith cael ei gwneud wedi hynny, roedd mewn cyflwr mor wael ac erbyn y 1970au roedd rhan ohono mewn cyflwr mor ddrwg roedd rhan ohono ar gau.[2]
Ym 1979, prynwyd Pier Royal Aberystwyth gan y Don Leisure Group, ac yn 1986 gwariwyd £250,000 ar welliannau i weddill y pier 91m (299 troedfedd). Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu pier newydd ochr yn ochr â'r gwreiddiol, ond ni gwireddwyd y prosiect erioed. Agorwyd neuadd a bwyty snwcer newydd ym 1987, mewn pafiliwn wedi'i ailwampio.[2]
Heddiw, mae'r Pier yn cynnwys siop hufen iâ, tafarn, neuadd snwcer, bwyty, canolfan arcêd hap-chwarae a hefyd clwb nos.
Drudwy Aberystwyth
golyguMae'r Pier yn gartref i filoedd o ddrudwy sy'n nythu yno yn yr Hydref.[4] Daw pobl i Bromenâd Aberystwyth yn unswydd i fwynhau edrych ac i ffotograffu cymylau neu 'sisial' o ddrudwy wrth iddynt hedfan o gylch y Pier ac yna noswylio yno.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Ceredigion County Council - Bibliography of Cardiganshire 1600-1968 Aberystwyth". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-31. Cyrchwyd 2018-10-07.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 https://web.archive.org/web/20131103141955/http://www.visitaberystwyth.com/index.php?option=com_content&view=article&id=56&Itemid=73&lang=en
- ↑ William Troughton (20 October 2009). "Aberystwyth's great storm of 1938". BBC Wales. Cyrchwyd 31 May 2010.
- ↑ http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6050000/newsid_6051000/6051060.stm
- ↑ https://twitter.com/traedmawr/status/922524776178036736?lang=bg