Twmpath o rew a orchuddir gan bridd a geir yn yr Arctig, yr isarctig, a'r Antarctig ac sy'n gallu cyrraedd uchder o hyd at 70 metr a lled o 2 cilometr yw pingo. Daw'r term o'r gair yn yr iaith Inuit am fryn isel. Mae'r pingo yn dirffurf periglasaidd.

Pingos ger Tuktoyaktuk, Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin, Canada
Pingo'n ymdoddi a rhew polygon ger Tuktoyaktuk, Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin, Canada

Un o'r ardaloedd sydd gydag un o'r dwysedd mwyaf o pingos yn y byd yw Tuktoyaktuk yn Delta Mackenzie, Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin, yng Nghanada, gyda tua 1,300 ohonynt. Mae parc Pingo National Landmark yn gwarchod wyth o'r rhain. Mae llefydd eraill gyda nifer sylweddol o pingos yn cynnwys Alaska, Yr Ynys Las, ac ynys Spitsbergen yn Norwy. Ceir gweddillion hen pingos yn yr Iseldiroedd yn ogystal, ger Zwaagwesteinde yn nhalaith Fryslân, ac yn nhaleithiau Drenthe a Groningen.

Ceir enghreifftiau yn Siberia hefyd, lle y'u gelwir yn bulganniakh yn yr iaith Yakuteg.

Credir fod pingos yn cael eu ffurfio wrth i ddŵr llyn rewi ac ymgodi o'r tir gan dyrchafu pridd gwaddol gwaelod y llyn i ffurfio bryn gyda chalon o rew.