Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol
(Ailgyfeiriad o Plaid Natsïaidd)
Roedd Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Almaenig (Almaeneg: Nationalsozialistische Deutsche Arbeiterpartei) yn blaid hynod genedlaetholgar a oedd yn weithgar yn yr Almaen rhwng 1919 a 1945. Roedd yn cael ei adnabod fel 'Plaid y Gweithwyr Almaenig' tan 1920. Dan arweiniaeth Adolf Hitler daeth i gynrychioli Natsïaeth yn ei ffurf amlycaf.