Plasdŵr

maestref newydd yng ngorllewin Ddinas a Sir Caerdydd

Mae Plasdŵr[1] yn faestref newydd yng ngogledd orllewin Caerdydd, fydd, wedi ei orffen, yn cynnwys tua 7,000 o gartrefi. Dechreuodd y gwaith adeiladu gan y datblygwr tai, Redrow Homes, yn 2017.

Plasdŵr
Enghraifft o'r canlynolanheddiad dynol arfaethedig Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhodfa Plasdŵr, Plasdŵr, Caerdydd (2024)

Cefndir

golygu

Cyflwynwyd cynlluniau ym mis Rhagfyr 2014 ar gyfer "Plasdwr" a oedd i'w greu ar 900 erw (368 hectar) o gefn gwlad sy'n eiddo i Ystadau Plymouth rhwng pentref Sain Ffagan a maestrefi presennol y Tyllgoed yng Nghaerdydd, Danescourt a Radur.[2] Roedd ardal o'r hyn sydd bellach yn rhan o'r Tyllgoed yn cael ei hadnabod fel Waterhall[3] (ac mae Ffordd Waterhall yn dal i redeg rhwng y Tyllgoed a Danescourt).

Roedd y cynlluniau'n cynnwys tua 7,000 o gartrefi (gyda cham cyntaf o 920) ynghyd â seilwaith gan gynnwys pum ysgol, swyddfeydd a siopau a chyfleusterau hamdden.[2] Mae'r cynllun yn cael ei farchnata gan y datblygwr Redrow Homes fel "dinas arddio'r 21g".[2] Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y 630 o gartrefi cyntaf ym mis Chwefror 2016, ar ôl i Gyngor Caerdydd gymeradwyo Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) y ddinas a oedd yn rhagweld y byddai 40,000 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu ar draws Caerdydd erbyn 2026.[4] Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer gweddill y cynllun (6,000 o gartrefi gan gynnwys cyfleusterau iechyd a hamdden) ym mis Mawrth 2017, y cais cynllunio mwyaf a ystyriwyd erioed gan yr awdurdod lleol.[5]

Gofynnwyd i Redrow dalu £28 miliwn tuag at well seilwaith trafnidiaeth.[6]

Adeiladu

golygu
 
Tir fferm drws nesaf i Ffordd Llantrisant ger Radur, yn 2005

Cyhoeddwyd cynlluniau gwerth £2bn i adeiladu ystâd, i bob pwrpas, maestref newydd 'Plas dŵr' yn 2014. Cyflwynwyd cynlluniau gan ddatblygwyr i godi 7,000 o dai newydd byddai'n cynnwys siopau, swyddfeydd, ysgolion, a gwasanaethau iechyd a hamdden a 30% o'r tai yn "dai fforddadwy".[7]

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y 126 o gartrefi cyntaf ar dir i'r gogledd o Heol Llantrisant adeg Pasg 2017.[8] Ym mis Ionawr 2018 dadorchuddiwyd 'pentref arddangos' 16 erw. Roedd tri deg o dai eisoes wedi'u gwerthu a'r preswylwyr wedi symud i chwech ohonynt.[9]Disgwylir i'r cynllun cyfan gymryd 20 mlynedd.

Bu’r fferm olaf sy’n weddill yn yr ardal, Fferm Maes-y-llech gerllaw Heol Llantrisant, yn destun achos cyfreithiol yn 2018 gan Iarll Plymouth i droi’r ffermwyr tenant allan o’r tir. Buont yn protestio trwy baentio emojis 'wyneb trist' ar eu bêls gwair.[10]

Ysgol Groes-wen

golygu
 
Ysgol Groes-Wen (2024)

Fel rhan o'r stâd, ac wedi dadlau mawr am natur ieithyddol yr ysgol, agorwyd Ysgol Gynradd Groes-Wen yn 2023. Roedd cynnwys ysgol yn rhan o'r cynllun gwreiddiol ond ni nodwyd yr iaith. Tra bu galw gan fudiadau Cymraeg fel Cymdeithas yr Iaith am ysgol cyfrwng Cymraeg i'r stâd,[11] bu eraill yn dadlau yn erbyn.[12] Bu oedi cyn cwblhau oherwydd pandemig Covid-19 2020. Mae gan yr ysgol ddalgylch yn cynnwys Plasdwr, Creigiau, Sain Ffagan, Radur, Morganstown a'r Tyllgoed.[12] Mae Ysgol Groes-wen yn cynnig llwybr mynediad Saesneg a Chymraeg, er bod y ffrwd Saesneg yn cael ei haddysgu yn Gymraeg hyd at 50% o'r amser.

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Follow for news and updates from Plasdŵr. We'll answer what we can here, for more detailed questions please email getintouch@plasdwr.co.uk". Cyfrif Twitter 'Plasdŵr' cwmni Redrow. Cyrchwyd 29 Hydref 2024.
  2. 2.0 2.1 2.2 Sion Barry (10 December 2014). "Revealed: 7,000 home garden city project planned on 900 acres of land in north west Cardiff". Wales Online. Cyrchwyd 14 October 2017.
  3. One-inch Map of Great Britain – Cardiff, Ordnance Survey, 1956
  4. Ruth Mosalski (10 Chwefror 2016). "The first of Cardiff's 40,000 new homes have been approved". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Hydref 2017.
  5. "£2bn Cardiff 'garden village' homes plans approved". BBC News. 15 Mawrth 2017. Cyrchwyd 14 Hydref 2017.
  6. "Bus interchange future for Cardiff to be revealed". BBC News. 27 June 2017. Cyrchwyd 14 October 2017.
  7. "Caerdydd: Cynllun i godi 7,000 o dai". BBC Cymru Fyw. 10 Rhagfyr 2014.
  8. Katy Sands (17 February 2017). "Building work for first set of homes in Cardiff's £2bn garden city to begin before Easter". Wales Online. Cyrchwyd 14 October 2017.
  9. Jessica Walford (22 January 2018). "These are the first homes in Cardiff's new £2billion suburb Plasdwr". Wales Online. Cyrchwyd 24 September 2018.
  10. Will Hayward (27 July 2018). "The family turfed off the land they've farmed for 50 years by the relentless expansion of Cardiff". Wales Online. Cyrchwyd 29 September 2019.
  11. "Ysgol Plasdŵr: protestwyr yn meddiannu swyddfeydd Cyngor Caerdydd". Golwg360. 2020. Cyrchwyd 29 Hydref 2024.
  12. 12.0 12.1 Alex Seabrook (24 June 2020). "The controversy behind the new Plasdwr school in Cardiff that will be half-English and half-Welsh". Wales Online. Cyrchwyd 13 October 2020.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato