Categori hiledig o bobl yw pobl dduon, wedi'u categoreiddio fel arfer ar seiliau gwleidyddol a lliw croen. Mae'r term yn cyfeirio at boblogaethau penodol sydd â phryd a gwedd yn amrywio o frown golau i frown tywyll. Mae gwahanol gymdeithasau yn diffinio pobl dduon yn wahanol, ac nid oes croen tywyll gan bawb sy'n rhan o'r categori hwn. Yn y byd gorllewinol, defnyddir y term pobl dduon fel arfer i gyfeirio at bobl sy'n dod eu hunain neu sydd â hynafiaid o Affrica Is-Sahara, y Caribî neu Ynysoedd y De. Gan gynnwys pobl o dras gymysg, roedd tua 1% o bobl Cymru yn ddu yn 2011 yn ôl y cyfrifiad.[1]

Cymru duon adnabyddus, sef Kizzy Crawford, Aled Brew, Colin Jackson a Shirley Bassey.
Lil Nas X

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "Cyfrifiad 2011: Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru, Mawrth 2011". Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2021-06-26.