Pont Gustave-Flaubert
Pont dros Afon Seine yn ninas Rouen yn Normandi, Ffrainc yw Pont Gustave-Flaubert. Fe'i henwir ar ôl y llenor Gustave Flaubert, awdur y nofel Madame Bovary, a aned yn Rouen. Ei hyd yw 670 metr (2,200 troedfedd).
Math | vertical-lift bridge, pont ffordd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Gustave Flaubert ![]() |
Agoriad swyddogol | 25 Medi 2008 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Q109659980 ![]() |
Lleoliad | Rouen ![]() |
Sir | Rouen ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 49.4436°N 1.0642°E ![]() |
Hyd | 670 metr ![]() |
![]() | |
Deunydd | concrit ![]() |
Agorwyd y bont yn swyddogol ar 25 Medi 2008 ar ôl pedair blynedd o waith. Mae'n bont sy'n codi'n syth i fyny (vertical-lift bridge) wedi'i hadeiladu o goncrit a dur. Amcangyfrifir ei bod wedi costio 60 miliwn ewro. Dechreuodd y gwaith ym mis Mehefin 2004. Penderfynodd Cyngor Dinas Rouen ei henwi ar ôl Flaubert ar 15 Rhagfyr 2006.
Mae'r bont yn cysylltu priffyrdd yr A13 gyda'r A29 a'r A28. Y bwriad yw lleihau'r traffig yn ardal gorllewinol Rouen tra'n ei chysylltu gydag ardal economaidd Rouen a phorthladd y ddinas.
