Port of Spain yw prifddinas Trinidad a Thobago. Saif ar Gwlff Paria ar arfordir gorllewinol ynys Trinidad. Roedd y boblogaeth yn 2000 yn 49.000, gyda 300,000 yn yr ardal ddinesig.

Port of Spain
Mathdinas, endid tiriogaethol gwleidyddol, regional corporation or municipality of Trinidad and Tobago Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSbaen, porthladd Edit this on Wikidata
Poblogaeth37,074 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPrif Weinidog Trinidad a Thobago Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−04:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Atlanta, Lagos, Morne-à-l'Eau, Yeosu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Trinidad a Thobago Trinidad a Thobago
Arwynebedd12 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr3 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawGwlff Paria Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau10.67°N 61.52°W Edit this on Wikidata
Cod post500234 Edit this on Wikidata
TT-POS Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPrif Weinidog Trinidad a Thobago Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd y ddinas gan y Sbaenwyr ar safle tref frodorol Cumucarapo. Symudodd y llywodraethwr Sbaenig olaf, Don Jose Maria Chacon, y brifddinas o St. Joseph i Port of Spain ar ddiwedd y 18g, a pharhaodd yn brifddinas pan ddaeth yr ynys yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig yn 1797.

Yr Amgueddfa Genedlaethol

O 1958 hyd 1962 roedd Port of Spain yn brifddinas Ffederasiwn India'r Gorllewin. Yn y 1960au, cyrhaeddodd y boblogaeth 100,000, ond ers hynny mae wedi gostwng wrth i bobl symud allan i'r maesdrefi.