Pride and Glory (Ffilm)
Mae Pride and Glory yn ffilm drama droseddol a gyfarwyddwyd gan Gavin O'Connor. Mae'r ffilm yn serennu Edward Norton a Colin Farrell a chafodd ei rhyddhau ar y 24ain o Hydref 2008 yn yr Unol Daleithiau. Yn y ffilm, mae Ray Tierney (Norton) yn heddwas gyda Heddlu Dinas Efrog Newydd. Mae'n aelod o deulu lle mae sawl cenhedlaeth wedi gweithio gyda'r heddlu. Mae Tierney'n ymchwilio i mewn i achos sy'n ymwneud â'i frawd hŷn a'i frawd yng-nghyfraith, gan ei orfodi i ddewis rhwng cefnogi ei deulu neu Heddlu Dinas Efrog Newydd.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Gavin O'Connor |
Cynhyrchydd | Josh Fagin Gregory O'Connor |
Ysgrifennwr | Gavin O'Connor Joe Carnahan |
Serennu | Edward Norton Colin Farrell Jon Voight Noah Emmerich |
Cerddoriaeth | Mark Isham |
Sinematograffeg | Declan Quinn |
Golygydd | Lisa Zeno Churgin John Gilroy |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Warner Bros. Pictures New Line Cinema |
Dyddiad rhyddhau | 24 Hydref, 2008 |
Amser rhedeg | 130 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |