Arcana Fwyaf

(Ailgyfeiriad o Prif Arcana)

Siwt o un cerdyn ar hugain mewn pecyn tarot (ynganer yn taro) yw'r Arcana Fwyaf. Ystyr yr Arcana Fwyaf ydy cyfrinachau fwyaf neu gyfrinachau mawr. Defnyddir y termau Arcana Fwyaf ac Arcana Leiaf mewn fersiynau ocwlt a daroganol o'r pecyn, ac mae'r termau hyn yn tarddu gyda Paul Christian.[1]

Mae pob un cerdyn yn dangos golygfa, person, neu sawl person fel arfer, gyda llawer o'r cardiau yn cynnwys elfennau symbolaidd. Mewn llawer o becynnau, mae gan bob un o'r cardiau rif (fel arfer rhifolion Rhufeinig) ac enw, ond nid ydy'r enw ynghyd â'r rhifolyn i'w cael ym mhob fersiwn o'r tarot, ac mae gan rhai pecynnau luniau'n unig.

Mae fersiynau cyffredin yn dilyn y patrwm a geir yma:

Rhif Enw
Dim (0 neu 22) Y Ffŵl
1 Y Swynwr / Y Siwglwr
2 Yr Arch Offeiriades / Y Babes
3 Y Ymerodres
4 Yr Ymerawdwr
5 Y Pab
6 Y Carwyr
7 Y Cerbyd Rhyfel
8 neu 11 Cyfiawnder
9 Y Meudwy
10 Yr Olwyn Ffawd
11 neu 8 Cryfder
12 Y Crog-Ddyn / Y Bradwr
13 Marwolaeth
14 Dirwest
15 Y Diafol
16 Y Tŵr
17 Y Seren
18 Y Lleuad
19 Yr Haul
20 Dyfarniad
21 Y Byd

Dylanwedir lluniau'r Arcana Fwyaf gyda symbolaeth drom fel arfer, gyda llawer mwy o wybodaeth i'r darluniad na ddarluniad syml sydd ar y cerdyn. Fel arfer, mae gan cardiau'r Arcana Fwyaf fwy o bwyslais ac arwyddocâd dwfn na chardiau'r Arcana Leiaf, sydd fel arfer yn gysylltiedig â bywyd bob dydd a digwyddiadau cyfagos.

Cyreiriadau

golygu
  1. Place, Robert (2005). The Tarot: History, Symbolism, and Divination (yn en)

Dolenni allanol

golygu