Prif Gwnstabl
Prif Gwnstabl yw'r teitl a roddir i brif swyddog pob heddlu leol yn y DU ac eithrio'r ddau sy'n gyfrifol am Lundain Fwyaf. Mae maint poblogaeth yr ardaloedd maent yn gyfrifol amdanynt yn amrywio o tua un neu ddau gan mil i hyd at ddau neu dri filiwn. Does gan brif gwnstabl ddim swyddog uwch drosto, ond mae'n atebol i'r Awdurdod Heddlu lleol. Mae prif swyddogion rhai adrannau heddlu yng Nghanada yn dal y teitl yn ogystal.
Cynorthwyir y prif gwnstabl gan Dirpwy Prif Gwnstabl ac un neu ragor o Brif Gwnstabliaid Cynorthwyol. Gyda'i gilydd cyfeirir atynt fel "Prif Swyddogion" heddlu lleol ac maent yn perthyn i Gymdeithas y Prif Gwnstabliaid (Association of Chief Police Officers).
Eginyn erthygl sydd uchod am yr heddlu neu orfodi'r gyfraith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.