Prifysgol Alabama
Prifysgol gyhoeddus a leolir yn Tuscaloosa, Alabama, Unol Daleithiau America, yw Prifysgol Alabama (Saesneg: The University of Alabama, UA; ar lafar Alabama neu Bama). Dyma'r brifysgol hynaf a fwyaf o holl brifysgolion cyhoeddus Alabama, a chyda dau gampws arall yn Birmingham a Huntsville mae'n ffurfio Cyfundrefn Prifysgol Alabama.
Math | prifysgol gyhoeddus, sefydliad addysg cyhoeddus yr Unol Daleithiau |
---|---|
Enwyd ar ôl | Alabama |
Agoriad swyddogol | 18 Ebrill 1831 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tuscaloosa |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 33.2108°N 87.5461°W |
Cod post | 35487-0166 |
Rhodd llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau awdurdod i brifysgol gael ei sefydlu yn Nhiriogaeth Alabama ym 1818. Derbyniwyd grant tir a siartr oddi ar y llywodraeth daleithiol newydd ym 1820, ac agorodd Prifysgol Alabama o'r diwedd ym 1831. Ychydig cyn dechrau Rhyfel Cartref America (1861–65), newidiwyd y brifysgol yn ysgol filwrol a fyddai'n hyfforddi swyddogion ar gyfer lluoedd y Taleithiau Cydffederal. Difrodwyd y campws gan farchfilwyr yr Undeb ym 1865, a ni fydd myfyrwyr yn dychwelyd yno nes 1869. Derbyniwyd merched i'r brifysgol am y tro cyntaf ym 1893.[1]
Daeth y brifysgol i sylw'r wlad, a'r byd, ym 1963 pryd gorchmynnodd barnwr ffederal yn y dalaith i'r brifysgol ddad-arwahanu. Gwrthodwyd hyn yn ffyrnig gan y Llywodraethwr George Wallace, a safai o flaen Neuadd Foster ar 11 Mehefin 1963 mewn ymgais i atal dau fyfyriwr croenddu rhag cofrestru. Yn sgil ymyrraeth gan yr Arlywydd John F. Kennedy, gorchmynnwyd i Wallace symud o'r fynedfa gan y Gwarchodlu Cenedlaethol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) University of Alabama. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Ionawr 2022.