Prifysgol Califfornia
System o brifysgolion cyhoeddus yn nhalaith Califfornia, Unol Daleithiau America, yw Prifysgol Califfornia. Mae'r system yn cynnwys campysau yn Berkeley, Davis, Irvine, Los Angeles, Merced, Riverside, San Diego, San Francisco, Santa Barbara, a Santa Cruz, ynghyd â sawl canolfan ymchwil arbenigol a chanolfannau tramor.
![]() | |
Math |
system o brifysgolion taleithiol, sefydliad addysgiadol, prifysgol grant tir, prifysgol ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
37.8022°N 122.2713°W ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan |
Frederick Low ![]() |
- Peidiwch â chymysgu y sefydliad hwn â Phrifysgol Talaith Califfornia.
Sefydlwyd Prifysgol California ar 23 Mawrth 1868. Fe'i lleolwyd yn ninas Oakland cyn symud i ddinas Berkeley ym 1873. Dros amser, sefydlwyd sawl lleoliad cangen. Rhwng 1951 a 1960 cychwynnodd Prifysgol California broses o roi mwy o ymreolaeth i'w champysau cyfansoddol, ac roedd gan bob un ei ganghellor ei hun.
Yn 2020 roedd gan Brifysgol California 10 campws, 273,179 o fyfyrwyr, 22,700 o staff academaidd, 154,900 o staff arall, a dros 2 filiwn o gyn-fyfyrwyr yn dal yn fyw.[1] Mae'r cympysau wedi'u gwasgaru ledled y dalaith, o Davis yn y gogledd i San Diego, 516 milltir (830 km) i'r de.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "The University of California at a Glance" (PDF). Prifysgol Califfornia. Cyrchwyd 24 Hydref 2020.