Prifysgol Southampton

Prifysgol gyhoeddus a leolir yn Southampton, Hampshire, yn ne Lloegr yw Prifysgol Southampton (Saesneg: University of Southampton). Mae'n aelod o Grŵp Russell.

Prifysgol Southampton
Mathprifysgol gyhoeddus, exempt charity, prifysgol ymchwil, sefydliad addysg uwch, sefydliad addysgol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1862 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadSouthampton Edit this on Wikidata
SirDinas Southampton Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.9346°N 1.396°W Edit this on Wikidata
Cod postSO17 1BJ Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd ffurf gynharaf y brifysgol, Sefydliad Hartley, gan Gorfforaeth Southampton ym 1862 dan nawdd y dyngarwr Henry Robinson Hartley. Ym 1902 newidiodd yn un o golegau Prifysgol Llundain, Coleg y Brifysgol Hartley. Rhoddwyd Siarter Frenhinol i'r sefydliad ym 1952 gan ei throi'n brifysgol lawn a chanddi'r hawl i ddyfarnu graddau dan enw ei hun, Prifysgol Southampton.

Lleolir prif gampws y brifysgol yn ardal Highfield, Southampton, a lleolir pedwar campws arall yn y ddinas: Campws Avenue (y dyniaethau), y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, Ysbyty Cyffredinol Southampton, a Champws Boldrewood (peirianneg a thechnoleg forwrol). Yn ogystal, mae gan Brifysgol Southampton ysgol gelfyddyd yng Nghaerwynt a changen ryngwladol ym Maleisia sydd yn cynnig cyrsiau peirianneg.

Eginyn erthygl sydd uchod am brifysgol neu addysg uwch. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.