Prifysgol dechnegol ymchwil gyhoeddus wedi'i lleoli yn Enschede, yr Iseldiroedd, yw Prifysgol Twente (Iseldireg: Universiteit Twente, abbr. UT).

Prifysgol Twente
Mathprifysgol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1961 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadStadsdeel Noord Edit this on Wikidata
SirEnschede Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd
Cyfesurynnau52.2425°N 6.8525°E Edit this on Wikidata
Cod post7500 AE Edit this on Wikidata
Map

Mae Prifysgol Twente yn cydweithredu â Phrifysgol Technoleg Delft, Prifysgol Technoleg Eindhoven a Phrifysgol a Chanolfan Ymchwil Wageningen o dan ymbarél 4TU, ac mae hefyd yn bartner yng Nghonsortiwm Prifysgolion Arloesol Ewrop (ECIU).

Cafodd y brifysgol wedi ei gosod o fewn y 500 prifysgol orau yn y byd gan bum prif dabl graddio. Daeth y brifysgol yn 65ain yn rhestr Reuters o'r Prifysgolion Mwyaf Arloesol Ewropeaidd 2017, a daeth 184fed ledled y byd yn 2019 yn ôl cylchgrawn y Times Higher Education.[1]

Mynedfa Prifysgol Twente

Sefydlwyd y brifysgol ym 1961 fel Technische Hogeschool Twente neu THT. Ar ôl Prifysgol Technoleg Delft a Phrifysgol Technoleg Eindhoven, hi oedd y trydydd sefydliad polytechnig yn yr Iseldiroedd i ddod yn Brifysgol. Ym 1986 ailenwyd y sefydliad yr Universiteit Twente (Prifysgol Twente), o ganlyniad i'r newidiadau yn Neddf Addysg Academaidd yr Iseldiroedd ym 1984.

Un o brif resymau llywodraeth yr Iseldiroedd i leoli trydedd brifysgol dechnegol y wlad yn Enschede, prif ddinas y rhanbarth Twente, oedd oherwydd y diwydiant gweithgynhyrchu cyfoethog yn y rhanbarth (tecstilau, metel, peirianneg drydanol, cemegau). Ystyriaeth bwysig arall oedd y ffaith bod angen hwb ar yr economi leol i wneud iawn am y diwydiant tecstilau oedd yn prinhau; a bod Enschede wedi sicrhau bod yr ystâd Drienerlo ar gael ar gyfer Prifysgol campws gyntaf yr Iseldiroedd.[2]

Campws

golygu

Adeiladwyd Prifysgol Twente ar hen ystâd wledig Drienerlo, rhwng Hengelo ac Enschede. Mae'r ystâd 140 hectar yn cynnwys coetir, dolydd a dŵr. Dyluniodd y penseiri Van Tijen a Van Embden y brifysgol campws Iseldireg gyntaf - a hyd yn hyn yn unig - yn ôl y syniad Americanaidd lle mae myfyrwyr a staff yn byw, gweithio a treulio eu hamser hamdden ar y campws.[3] Mae Undeb y Myfyrwyr, sy'n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan fyfyrwyr, yn rheoli sawl adeilad, gan gynnwys y ganolfan gymdeithasol myfyrwyr yn Enschede.[4]

 
Tŵr Drienerlo ar y campws

Cyfadrannau

golygu

Mae gan y brifysgol bum cyfadran, ac mae pob cyfadran yn ei dro wedi'i threfnu'n sawl adran:

  • Gwyddorau Ymddygiadol, Rheolaeth a Chymdeithasol (BMS) - yn cynnwys astudiaethau cyfathrebu, seicoleg, gweinyddiaeth gyhoeddus, gwyddoniaeth a thechnoleg addysg, astudiaethau Ewropeaidd, rheolaeth amgylchedd ac ynni, a rheolaeth risg.
  • Technoleg Peirianneg (ET) - yn cynnwys peirianneg fecanyddol, peirianneg sifil, peirianneg dylunio ddiwydiannol, a thechnoleg ynni cynaliadwy.
  • Peirianneg Drydanol, Mathemateg a Chyfrifiadureg (EEMCS) - yn cynnwys peirianneg drydanol, mathemateg gymhwysol, technoleg rhyngweithio, gwyddoniaeth a thechnoleg y rhyngrwyd, a gwyddoniaeth gyfrifiadurol.
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg (ST) - yn cynnwys peirianneg gemegol, ffiseg gymhwysol, peirianneg fiofeddygol, gwyddorau iechyd, technoleg uwch, a nanotechnoleg.
  • Cyfadran y Gwyddorau Geo-wybodaeth ac Arsylwad y Ddaear (ITC) - yn cynnwys peirianneg ofodol, cartograffeg, gwyddoniaeth geo-wybodaeth, ac arsylwad y Ddaear.

Ynghyd â'r rhaglenni a weinyddir gan y cyfadrannau uchod, mae Coleg Prifysgol Twente yn cynnig y rhaglen BSc anrhydedd eang mewn Technoleg a'r Celfyddydau a Gwyddorau Breiniol, neu ATLAS yn fyr, ac mae Ysgol Graddedigion Twente yn cynnig addysg ôl-raddedig (PhD a PDEng).[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Editorial, Reuters. "Top 100 European Innovative Universities Profile". U.S. (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Ionawr 2018.
  2. "History of the University of Twente". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2014. Cyrchwyd 26 Ionawr 2014.
  3. "Life at the University | Campus Life | MSc University of Twente". Universiteit Twente. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-16. Cyrchwyd 14 Ionawr 2017.
  4. "The Student Union". Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2016.
  5. "University of Twente, Faculties". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-29. Cyrchwyd 22 Awst 2019.