Proses heddwch
Ymdrechion gan bleidiau sy'n cydweithio i ddod â therfyn i wrthdaro neu ryfel hir yw proses heddwch. Roedd Cytundeb Belffast yn ddigwyddiad pwysig ym mhroses heddwch Gogledd Iwerddon, ac mae nifer fawr o bleidiau ar draws y byd yn gweithio i sicrháu ateb heddychlon ym mhroses heddwch y gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd a'r gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd.