Rhestr Goch yr IUCN

(Ailgyfeiriad o Pryder lleiaf)

Sefydlwyd y Rhestr Goch yr IUCN o rywogaethau dan fygythiad. (a gaiff ei adnabod hefyd fel: Rhestr Goch yr IUCN), yn 1963; dyma restr mwyaf cynhwysfawr o rywogaethau ledled y byd o rywogaethau biolegol. Yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (International Union for Conservation of Nature) ydy prif awdurod ar statws cadwiaethol rhywogaethau.

Llamhidydd: dosbarthwyd i gategori "Bregus" Rhestr Goch yr IUCN.
Y canran o rywogaethau, mewn grwpiau, a restrir eu bod      mewn perygl difrifol,      mewn perygl, neu'n      fregus ar Restr Goch yr IUCN yn 2007.

Mae'r Undeb Rhyngwladol yn ceisio adolygu eu rhestrau unwaith pob pum mlynedd.[1]

Categoriau golygu

Dosberthir rhywogaethau gan yr IUCN i 9 grŵp,[2] grwy ddefnyddio llinynau mesur (neu griteria) megis cyflymder y dirywiad yn y niferoedd, maint y boblogaeth, dosbarthiad daearyddol ayb.

  • Rhywogaeth wedi darfod (Extinction|Extinct (EX)) – Dim un o'r rhywogaeth yn bodoli.
  • Wedi diflannu yn y gwyllt (Extinct in the Wild (EW)) – Y rhywogaeth yn bodoli mewn sŵ yn unig, neu wedi'i ddofi.
  • Rhywogaeth mewn perygl difrifol (Critically endangered species (CR)) – Yn bur debygol o ddiflanu yn y gwyllt.
  • Mewn perygl (Endangered (EN)) – Posibilrwydd o ddiflanu o'r gwyllt yn uchel.
  • Bregus (Vulnerable (VU)) – Perygl o ddiflanu o'r gwyllt.
  • Yn agos at fod dan fygythiad (Near Threatened (NT)) – Yn debygol o fod mewn perygl yn y dyfodol agos.
  • Lleiaf o bryder (Least Concern (LC)) – Y risg lleiaf. Niferoedd eang ac iach.
  • Diffyg Data (Data Deficient (DD)) – Dim digon o ddata i werthuso'r risg i'r rhywogaeth.
  • Heb ei werthuso (Not Evaluated (NE)) – Heb gael ei gloriannu.

Wrth drafod y Rhestr Goch yr IUCN, mae'r term "Dan Fygythiad" yn cwmpasu 3 chategori: Rhywogaeth mewn perygl difrifol, Mewn perygl, a Bregus.

Fersiynau golygu

Ers 1991 cafwyd sawl fersiwn o'r Rhestr Goch, gan gynnwys:[3][4]

  • Fersiwn sion 2.0 (1992)
  • Fersiwn 2.1 (1993)
  • Fersiwn 2.2 (1994)
  • Fersiwn 2.3 (1994)
  • Fersiwn 3.0 (1999)
  • Fersiwn 3.1 (2001)
  • Fersiwn 4 (2015)

Y rhestr bwysicaf o ran planhigion yw Fersiwn 1997.[5] 1.0 (1991)

Gweler hefyd golygu

  • Ceir categori cyfan o erthyglau rhywogaethau yma.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Red List Overview". IUCN Red List. International Union for Conservation of Nature. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-27. Cyrchwyd 20 Mehefin 2012.
  2. Canllawiau ar sut i ddefnyddio'r Categoriau a llinynau mesur, IUCN, Awst 2010, http://www.nationalredlist.org/files/2012/09/Guidelines-for-Using-the-IUCN-Red-List.pdf, adalwyd 2012-09-05
  3. "2001 Categories & Criteria (version 3.1)". IUCN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mehefin 2014. Cyrchwyd 27 Ionawr 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "Historical IUCN Red Data Books and Red Lists". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mehefin 2014. Cyrchwyd 9 Mehefin 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "Which IUCN list should I choose?". Botanic Gardens Conservation International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-05. Cyrchwyd 2017-03-07.