Cramennog yw pryf lludw (lluosog pryfaid lludw) neu fel y'u gelwir yn Ne Cymru: moch coed. Mae gan y pryf lludw sgerbwd allanol hir a segmentiedig, gydag 14 aelod cymalog. Mae pryfaid lludw yn aelod o'r Oniscidea o fewn Isopoda, gyda dros 3,000 o rywiogaethau y gwyddom amdanynt. Mewn gwrthwyneb i'r enw, nid pryf yw'r pryf lludw.

Oniscus asellus

Mae'r pryfaid lludw sy'n perthyn i rywiogaeth Armadillidium yn gallu rholio i fyny'n belen sydd bron yn berffaith gron er mwyn amddiffyn eu hunain.

Enwau golygu

•Twm Dew

Cyfeiria Geiriadur Prifysgol Cymru at Twm Dew fel enw amgen o Fôn am y gwrachen ludw. Clywyd ar lafar gan drigolyn o Lanrug, Arfon[1]. Meddai Steffan ab Owain: "....rwyf wedi clywed am Twm Dew. Edrycha yn y gyfrol fach wych na Penblwydd Mwnci ayyb ac ar dudalen 71, dwi’n meddwl, ac y mae pwt amdano ynddo. Yr unig le imi weld cyfeiriad ato mewn print fel arall yw yn nghyfrol Hafodydd Brithion, os cofiaf yn iawn"[2]. Dichon mai at ffurf gaeafgysgol glöyn y trilliw bach Aglais urticayw'r cyfeiriadau hyn.

Ecoleg golygu

 
Porcellio scaber (chwith) a Oniscus asellus (canol) yn byw ar hen bren

Mae pryfaid lludw angen lleithder er mwyn gallu byw oherwydd eu bod yn anadlu drwy degyll, o'r enw pseudotrachea, ac felly canfyddir hwy mewn llefydd llaith a thywyll, megis o dan cerrig neu fonyn coeden. Maent fel arfer yn nosol ac yn detritysyddion, gan fwydo yn bennaf ar ddeunydd planhigion marw, a dyma o le caent eu henw, ond maent hefyd wedi eu harsylwi'n bwyta mefus ac eginblanhigion tyner. Mae pryfaid lludw'n helpu i ailgylchu maeth yn ôl i'r ddaear.

  Eginyn erthygl sydd uchod am anifail. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. https://www.facebook.com/groups/CymunedLlenNatur/permalink/1155288997999735/
  2. Steffan ab Owain, (Archifydd), Blaenau Ffestiniog, ebost personol i DB