Pulp Fiction (ffilm)

Mae Pulp Fiction (1994) yn ffilm drosedd Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Quentin Tarantino, a ysgrifennodd y ffilm ar y cyd gyda Roger Avary. Mae'r ffilm yn enwog am ei deialog gyfoethog a'i chymysgedd eironig o drais a hiwmor a chyfeiriadau at ddiwylliant pop. Enwebwyd y ffilm am saith Oscar, gan gynnwys y Ffilm Orau; enillodd Tarantino ac Avary Wobr yr Academi am y Sgript Wreiddiol Orau. Derbyniodd y Palme d'Or yn Ngŵyl Ffilmiau Cannes hefyd. Roedd y ffilm yn llwyddiant masnachol ac ail-gychwynnodd yrfa John Travolta, a gafodd ei enwebu am Wobr yr Academi, fel y gwnaeth ei gyd-actorion Samuel L. Jackson ac Uma Thurman hefyd.

Pulp Fiction
Cyfarwyddwr Quentin Tarantino
Cynhyrchydd Lawrence Bender
Ysgrifennwr Quentin Tarantino
Roger Avary
Serennu John Travolta
Samuel L. Jackson
Uma Thurman
Bruce Willis
Harvey Keitel
Tim Roth
Amanda Plummer
Maria de Medeiros
Ving Rhames
Eric Stoltz
Rosanna Arquette
Christopher Walken
Golygydd Sally Menke
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Miramax Films
Dyddiad rhyddhau 14 Hydref 1994
Amser rhedeg 154 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg