Vladimir Putin
Gwleidydd o Rwsia ac Arlywydd Ffederasiwn Rwsia ers 2012 a chyn hynny o Fai 2000 hyd Fai 2008 yw Vladimir Putin (trawslythreniad amgen: Fladimir Pwtin[1]; Rwsieg: Влади́мир Влади́мирович Пу́тин) (ganed 7 Hydref 1952). Fe ddaeth yn arlywydd gweithredol ar 31 Rhagfyr 1999, yn olynydd i Boris Yeltsin, ac fe'i arwisgwyd yn arlywydd ar ôl etholiadau ar 7 Mai 2000. Yn 2004, fe'i ail-etholwyd am ail dymor a ddaeth i ben ar 2 Mawrth 2008; cafodd ei olynu gan Dmitry Medvedev. Yn ôl y cyfansoddiad ar y pryd, ni allai gael ei ail-ethol drachefn. Serch hynny, datganodd y byddai yn sefyll dros sedd yn y Duma fel ymgeisydd cyntaf ar restr etholiadol plaid Rwsia Unedig (Edinaya Rossiya). Agorodd hynny y posibilrwydd iddo gymryd swydd Prif Weinidog Rwsia o dan yr arlywydd newydd: un o benderfyniadau cyntaf Medvedev oedd cynnig y swydd honno iddo.
Владимир Путин Vladimir Putin | |
| |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 7 Mai 2012 | |
Rhagflaenydd | Dmitry Medvedev |
---|---|
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2000 – 7 Mai 2008 | |
Rhagflaenydd | Boris Yeltsin |
Olynydd | Dmitry Medvedev |
Cyfnod yn y swydd 8 Mai 2008 – 7 Mai 2012 | |
Rhagflaenydd | Viktor Zubkov |
Olynydd | Viktor Zubkov |
Geni | 7 Hydref 1952 Leningrad |
Priod | Ludmila Putina |
Llofnod |
Mae swyddogion llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi honni ei fod e wedi arwain ymyrraeth Rwsiadd yn Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2016 yn erbyn Hillary Clinton ac mewn cefnogaeth i Donald Trump, ond mae Putin wedi gwadu a beirniadu hyn sawl gwaith.[2]
Blynyddoedd cynnar a gyrfa gyda'r KGB
golyguGaned Putin yn Leningrad (St Petersburg heddiw) ar 7 Hydref 1952.
Graddiodd Putin o gangen ryngwladol Adran Cyfraith Prifysgol Wladwriaethol Leningrad ym 1975, ac ymunodd â'r KGB. Yn y brifysgol, daeth yn aelod o'r blaid gomiwnyddol, ac fe fu'n aelod tan fis Awst 1991.
Bywyd personol
golyguTsietsnia
golygu- Gweler hefyd: Ail Ryfel Tsietsnia.
Wcráin
golyguYm mis Chwefror 2022, gorchmynnodd Putin filwyr Rwseg i oresgyn Wcráin.[3] Arweiniodd Rhyfel Rwsia ar Wcráin ar golli bywydau miloedd o filwyr Rwsaidd, a chreu oddeutu 10 miliwn o ffoaduriaid Wcreinaidd.[4]
Safbwyntiau
golyguMae Putin yn arddel safbwynt geidwadol ar faterion cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol. Mae gwaith yr athronydd ffasgaidd Ivan Ilyin yn ddylanwad arno.[1] Mae sawl wedi dadansoddi yr hyn a elwir yn Pwtiniaeth sef credo wleidyddol a gweithredol Putin fel Arlywydd a Phrif Weinidog Ffederasiwn Rwsia.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Yr athronydd yn y Cremlin". pedwargwynt.cymru. Cyrchwyd 2022-03-01.
- ↑ "Putin says claims of Russian meddling in U.S. election are 'just some kind of hysteria'". Los Angeles Times. 2 June 2017.
- ↑ "Ukraine conflict: Russian forces invade after Putin TV declaration". BBC News (yn Saesneg). 2022-02-24. Cyrchwyd 24 February 2022.
- ↑ "Russia's war in Ukraine 'causing £3.6bn of building damage a week'". The Guardian. 3 Mai 2022.