Mursen fawr goch

(Ailgyfeiriad o Pyrrhosoma nymphula)
Pyrrhosoma nymphula
Gwryw
Benyw ifanc
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Zygoptera
Teulu: Coenagrionidae
Genws: Pyrrhosoma
Rhywogaeth: P. nymphula
Enw deuenwol
Pyrrhosoma nymphula
(Sulzer, 1776)

Mursen (math o bryfyn) eitha poblog yn nheulu'r Coenagrionidae yw'r Fursen fawr goch (llu: mursennod mawr coch; Lladin: Pyrrhosoma nymphula; Saesneg: Large Red Damselfly) sydd o fewn y genws a elwir yn Pyrrhosoma. Mae'r mursenod (Zygoptera) a'r gweision neidr (Anisoptera) ill dau'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Odonata. Mae'r Fursen fawr goch i'w chael yn Ewrop, gyda rhai rhywogaethau yma-ac-acw drwy Ogledd Affrica a Gorllewin Asia.[1]

Fel llawer o fursennod (a elwir yn gyffredinol hefyd yn 'weision neidr') eu cynefin yw pyllau o ddŵr, ffosydd, llynnoedd araf eu llif, nentydd neu afonydd glân.

Mae adenydd yr oedolyn yn 36mm ac fe'i welir yn hedfan rhwng Ebrill ac Awst - un o'r mursennod cyntaf i ddod allan am yr haf. Camgymerir P. nymphula am y Fursen lygatgoch fach - ond mae gan y lygatgoch fach goesau oren a P. nymphula goesau du.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu