Afon Nerbioi

(Ailgyfeiriad o Ría de Bilbao)

Afon yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yw Afon Nerbioi (Basgeg: Nerbioi, Sbaeneg: Nervión). Mae'n tarddu ger y ffin rhwng taleithiau Burgos ac Araba. Heb fod ymhell o'i tharddiad mae'n ffurfio rhaeadr lle mae'r dŵr yn disgyn 270 medr. Llifa i mewn i dalaith Bizkaia ger Orduña, ac yn Basauri, mae Afon Ibaizabal yn ymuno â hi. Mae'r ddwy afon yn ffurfio aber sy'n llifo trwy ddinas Bilbo, ac a adwaenir fel Aber Bilbo (Bilboko Itsasadarra yn Basgeg neu Ría de Bilbao yn Sbaeneg).

Afon Nerbioi
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg Edit this on Wikidata
GwladSbaen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.325506°N 3.019372°W, 42.9266°N 2.9799°W, 43.3255°N 3.0194°W Edit this on Wikidata
TarddiadIbaizabal Edit this on Wikidata
AberBilbo Edit this on Wikidata
LlednentyddAsua river Edit this on Wikidata
Dalgylch1,900 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd75.6 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad9.6 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Afon Nerbioi yn Etxebarri