Ramón de Mesonero Romanos
Llenor o Sbaen oedd Ramón de Mesonero Romanos (19 Gorffennaf 1803 – 30 Ebrill 1882) sy'n nodedig am ei frasluniau o fywyd trigolion Madrid sydd yn nodweddiadol o genre costumbrismo.
Ramón de Mesonero Romanos | |
---|---|
Ffugenw | El Curioso Parlante |
Ganwyd | 19 Gorffennaf 1803 Madrid |
Bu farw | 30 Ebrill 1882 Madrid |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Galwedigaeth | llenor |
Swydd | Cynghorydd ar Gyngor Madrid |
Adnabyddus am | Manual de Madrid: descripción de la corte y de la villa |
Mudiad | Costumbrismo |
llofnod | |
Ganed ym Madrid, a fe fu'n ymddiddori mewn hanes a daearyddiaeth leol ei fro ers ei fachgendod. Cyhoeddodd Manuel de Madrid yn 1931, ac yn 1932 dechreuodd ysgrifennu erthyglau ar fywyd cymdeithasol y ddinas dan y ffugenw "El Curioso parlante" ar gyfer y cylchgrawn Cartas españolas. Cesglid y brasluniau hynny yn y cyfrolau Panorama matritense (1835–36). Fe'i etholwyd i'r Academi Sbaenaidd yn 1838. Cyhoeddodd ei hunangofiant Memorias de un setentón, natural y vecino de Madrid yn 1880. Bu farw ym Madrid yn 78 oed.