Cofnodir rasio ceffylau, lle mae ceffylau yn rhedeg yn erbyn ei gilydd, un ai gyda marchog ar eu cefnau neu yn tynnu cerbyd, o gyfnod cynnar iawn. Rasio cerbydau oedd y dull poblogaidd yn ystod yr Ymerodraeth Rufeinig, a pharhaodd yn boblogaidd yn yr Ymerodraeth Fysantaidd, gan ddenu tyrfaoedd enfawr.

Rasio ceffylau yn yr Almaen.
Rasio ceffylau

Yn y cyfnod diweddar, ceffylau gyda marchogion (joci) ar eu cefnau yn rasio yw'r dull mwyaf poblogaidd yn y rhan fwyaf o wledydd. Mae'n boblogaidd dros ran helaeth o'r byd, gyda cheffylau arbennig yn cael ei magu am gyflymdra. Ceir gwaed ceffylau arabaidd yn y rhan fwyaf o'r ceffylau hyn.

Eginyn erthygl sydd uchod am rasio ceffylau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.