Ratnapura
Dinas yng nghanolbarth Sri Lanca sy'n brifddinas Ardal Ratnapura a Thalaith Sabaragamuwa yw Ratnapura (Sinhaleg, රත්නපුර ; Tamileg, இரத்தினபுரி ; "Dinas y Meini Gwerthfawr" ratna "gemau" + pura "dinas"). Mae'r ffurf Rathnapura yn amrywiad ar yr enw. Mae'r ddinas yn gorwedd tua 100 km i'r de-ddwyrain o Colombo, prifddinas Sri Lanca. Tua 20 km i'r gogledd ceir Copa Adda, sy'n ganolfan pererindod bwysig.
Eglwys gadeiriol Saint Pedr a Pawl, Ratnapura | |
Math | anheddiad dynol |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ratnapura district |
Gwlad | Sri Lanca |
Arwynebedd | 20 km² |
Uwch y môr | 130 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 6.6667°N 80.4003°E |
Mae Ratnapura wedi bod yn ganolfan mwyngloddio am emau gwerthfawr fel rhuddemau a saffirau ers canrifoedd. Tyfir llawer o reis a ffrwythau yn yr ardal hefyd. Ceir planhigfeydd te a rwber o gwmpas y ddinas ac mae twristiaeth yn bwysig i'r economi hefyd gydag ymwelwyr yn ei defnyddio fel canolfan i fynd i fforest Sinharaja, Parc Cenedlaethol Uda Walawe, Kitulgala, a Sri Pada (Copa Adda). Yn 2001 roedd gan Ratnapura boblogaeth o 46,309.