Ray Reardon

chwaraewr snwcer

Chwaraewr snwcer o Gymro oedd Ray Reardon MBE (8 Hydref 193219 Gorffennaf 2024).[1] Roedd yn cael ei ystyried yn un o'r chwaraewr snwcer gorau erioed. Cafodd y llysenw 'Dracula' oherwydd steil ei wallt.

Ray Reardon
Ganwyd8 Hydref 1932 Edit this on Wikidata
Tredegar Edit this on Wikidata
Bu farw19 Gorffennaf 2024 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr snwcer Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, Snooker Hall of Fame Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Cafodd ei eni yn Nhredegar. Cychwynodd weithio fel glöwr cyn ei fod yn bymtheg, gan ddilyn ôl-traed ei dad, Ben. Yn nghanol y 1950au, gorfodwyd y teulu i symud er mwyn chwilio am waith. Sefydlodd y teulu yn Swydd Stafford lle cafodd Ben a'i fab Ray waith ym mhwll glo Florence. Yn 1957, roedd mewn damwain pwll glo pan gwympodd traws mewn twnnel. Cymerodd hi ddeuddeg dyn i gloddio'r rwbel o'r ffordd ac roedd Ray yn sownd am dair awr cyn ei achub. Yn 1960 ymunodd Ray a'r heddlu yn Stoke-on-Trent.[2]

Enillodd pencampwriaeth y byd chwe gwaith rhwng 1970 a 1978. Ef oedd y chwaraewr cyntaf i fod yn safle "rhif un yn y byd" pan gyflwynwyd rhestr safloedd byd yn ystod 1976-1977, a parhodd yn y safle cyntaf am bum mlynedd.[3]

Ymddeolodd o chwarae snwcer yn 1991 pan oedd yn 58 mlwydd oed. Yn ddiweddarach gweithiodd fel ymgynghorydd i chwaraewyr snwcer iau yn cynnwys Ronnie O'Sullivan.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ray Reardon: Six-times world snooker champion dies aged 91". BBC Sport (yn Saesneg). 2024-07-20. Cyrchwyd 2024-07-20.
  2. Knapper, Dave (2024-07-20). "How Ray Reardon survived Potteries colliery disaster and became snooker legend". Stoke on Trent Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-21.
  3. "Y cyn-chwaraewr snwcer Ray Reardon wedi marw yn 91 oed". newyddion.s4c.cymru. 2024-07-20. Cyrchwyd 2024-07-20.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am snwcer. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.