Rebecca Llewellyn
Cyn-chwaraewraig tenis proffesiynol o Gymru yw Rebecca Llewellyn (ganwyd 5 Hydref 1985). Ganwyd yng Nghaerdydd.
Yn ystod ei gyrfa, enillodd un teitl mewn senglau a saith yn dyblau ar Gylchdaith Merched ITF. Cyrhaeddodd safle rhif 280 yn y senglau a safle rhif 309 mewn dyblau. Nid yw wedi cystadlu'n broffesiynol ers 2007.
Dechreuodd chwarae tenis saith oed yn yr ysgol. Graddiodd o Ysgol Uwchradd Haileybury yn 2003.
Chwaraeai gyda'i llaw dde a chyfeiriai at y trawiad gwrthlaw a'r foli fel ei hoff ergydion. Ei hoff arwynebau chwarae oedd glaswellt a chlai.
Gyrfa ieuenctid (1999–2003)
golyguChwaraeodd Llewellyn ei gęm gyntaf ar y gylched ITF Iau ym mis Chwefror 1999 a'i gem olaf ym mis Mehefin 2003 ym Mhencampwriaethau Iau Wimbledon. Gwnaeth ei pherfformiadau gorau yn y senglau pan gyrhaeddodd ddwy rownd gyn-derfynol mewn digwyddiadau is-haen ieuenctid yn 2000. Cyrhaeddodd hefyd y chwarteri olaf mewn un digwyddiad arall. O ran llwyddiant Camp Lawn, daeth ei chanlyniad gorau yn Wimbledon yn 2000 pan enillodd ddwy gêm ragbrofol a mynd yn ei blaen i gyrraedd yr ail rownd. Erbyn diwedd ei gyrfa iau, roedd ganddi record ennill-colli sengl o 11–14 a safle uchaf o 234 ar gyfer ei gyrfa (a gyrhaeddwyd ar 25 Mehefin 2001).
Fel chwaraewr dyblau iau, daeth yn ail ar un achlysur. Cyrhaeddodd y rownd gyn-derfynol yn y dyblau ar achlysur arall. Unwaith yn unig y bu'n cystadlu mewn dyblau yn y Gamp Lawn, a hynny ym Mhencampwriaethau Wimbledon 2001. Cafodd Katie O'Brien a hithau eu bwrw allan yn y rownd gyntaf. Daeth ei gyrfa iau i ben gyda record ennill-colli o 5–7 mewn dyblau a safle dyblau uchaf o rif 410 (a gyrhaeddwyd ar 16 Ebrill 2001).
Blynyddoedd proffesiynol
golyguCymerodd Llewellyn ran ym Mhencampwriaethau Wimbledon 2005, ond collodd 0-6, 1–6 i Svetlana Kuznetsova, a oedd wedi'i gosod yn bumed yn y dosbarthiad. Wrth wneud hynny, hi oedd y chwaraewr cyntaf o Gymru i gystadlu yn senglau ers Sarah Loosemore ym 1992.[1] Bu hefyd yn cystadlu yn y gystadleuaeth ddyblau ym Mhencampwriaethau Wimbledon 2005 a 2006, gan golli yn y rownd gyntaf ar y ddau achlysur.[2][3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Llewellyn plans pioneering role". BBC. 21 June 2005. Cyrchwyd 22 May 2010.
- ↑ "Llewellyn upbeat despite defeat". BBC. 23 June 2005. Cyrchwyd 22 May 2010.
- ↑ "Llewellyn to learn from SW19 loss". BBC. 29 June 2006. Cyrchwyd 22 May 2010.