Rebecca St. James

actores a chyfansoddwr a aned yn 1977

Cantores o Awstralia yw Rebecca St. James (ganwyd 26 Gorffennaf 1977) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel actor ffilm, canwr-gyfansoddwr, canwr, actor, peroriaethwr ac awdur.

Rebecca St. James
Ganwyd26 Gorffennaf 1977 Edit this on Wikidata
Sydney Edit this on Wikidata
Label recordioReunion Records, ForeFront Records, Beach Street Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstralia Awstralia
Alma mater
  • Pacific Hills Christian School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, canwr-gyfansoddwr, canwr, actor, cyfansoddwr, ysgrifennwr, artist recordio Edit this on Wikidata
ArddullChristian rock, contemporary Christian music Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Ganwyd y gantores bop Gristnogol Rebecca St. James (Rebecca Jean Smallbone) i David a Helen Smallbone yn Sydney, Awstralia. Pan oedd yn 14 oed symudodd gyda'i rheini a'i chwaer a'i brodyr i Nashville Tennessee. Yn ogystal â bod yn gantores ac yn gyfansoddwraig geiriau caneuon y mae hefyd yn awdures ac yn actores lwyddiannus. Bu'n llafar iawn o fewn y mudiad gwrth-erthylu ac mae'n lefarydd ar ran y mudiad Cristnogol dyngarol, Compassion International. Mae'n briod gyda chyn-chwaraewr bas y grŵp Foster the People, Jacob 'Cubbie' Fink (brodor o Colorado a chenhadwr yn Ne Affrica), ac mae ganddynt ddwy ferch. Mae'n byw ar hyn o bryd yn Nashville.[1][2]

Gyrfa golygu

Dechreuodd Rebecca berfformio yn Awstralia yn yr wythdegau hwyr a rhyddhaodd albwm annibynnol, Refresh My Heart yn Awstralia o dan yr enw Rebecca Jean. Wedi i'r teulu symud i Nashville, cafodd gynnig arwyddo gyda label ForeFront Records a newidiodd ei henw perfformio ar gais y cwmni. Rhyddhaodd ei halbwm Rebecca St James gyda nhw yn 1994 ac yna saethodd i enwogrwydd yn yr 1990au gyda'r albwm 'God' a Pray. Ers hynny, mae wedi sefydlu ei hun fel un o artistiaid cerddorol amlycaf o fewn y sin Cerddoriaeth Gristnogol Gyfoes. Enillodd wobr Grammy yn 1999 am yr Albwm Gosbel Orau gyda Pray. Yn 2004 ymddangosodd yn y sioe gerdd !Hero, sef opera roc Gristnogol a chafodd rannau mewn amrywiol ffilmiau - megis Faith of Our Fathers (2015) lle portreadodd ffawdheglwr o Awstralia. Chyhoeddodd hefyd sawl cyfrol Gristnogol. Ymysg ei chyhoeddiadau mae'r gyfrol ddefosiynol 40 Days with God: A Devotional Journey (1996), Wait For Me: Rediscovering the Joy of Purity in Romance (a ryddhawyd yn 2002 i hyrwyddo'r sengl Wait For Me) a SHE: Safe, Healthy, Empowered: The Woman You're Made to Be (2004) a'i nofel Gristnogol gyntaf, The Merciful Scar (2013) a ysgrifennodd ar y cyd gyda Nancy Rue. Ymysg ei theithiau perfformio mwyaf nodedig fel artist mae If I had One Chance to Tell You (2006) pan fu'n teithio gyda grŵp Cristnogol arall, BarlowGirl. Rhyddhaodd sawl record gyda ForeFront Records dros y blynyddoedd cyn cyhoeddi, yn 2010, ei bod yn gadael y label ac yn bwriadu rhyddhau ei halbwm addoli nesaf gyda Beach Street/Reunion Records. Yn dilyn cyfnod hesb, dychwelodd St. James i'r stiwdio i recordio Amazing Grace gyda'i brodyr, Joel a Luke Smallbone o'r band For King and Country a rhyddhawyd y gân yn 2017. Ymunodd gyda nifer o artistiaid eraill yn ystod 2018-2019 ar y daith 'Greatest Hits Live'.[3][4]

Cyfeiriedau golygu

  1. "Rebecca St. James Marries This Past Weekend In San Diego". ASSIST News Service. 26 Ebrill 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mehefin 2011. Cyrchwyd 26 Ebrill 2011.
  2. "Rebecca St. James on Instagram: "Our baby GIRL is here and we are delirious with joy! Imogen (Means pure/Innocent) Watson Fink was born last Friday night and weighed 7…"". Instagram. Instagram. Cyrchwyd 3 February 2019.
  3. "The JfH Concert Reviews and Dates: Rebecca St. James, BarlowGirl, Jadon Lavik Tour 2006". Jesusfreakhideout.com. Cyrchwyd 12 March 2011.
  4. "My Utmost For His Highest: New multi-artist celebration of classic devotional book".