Dryll a danir o'r ysgwydd yw reiffl sydd â rhigoliad troellog yn ei baril. Mae'r rhigoliad yn rhoi tro ar y fwled wrth iddi adael y faril, yn debyg i'r ffordd y teflir pêl rygbi. Mae hyn yn gwneud y reiffl yn welliant ar ei rhagflaenydd, y mwsged. Defnyddir reifflau mewn rhyfel, hela, a chwaraeon saethu.

Reiffl Springfield '03, reiffl follt o gychwyn yr 20fed ganrif.
M16A1, un o'r reifflau ymosod aildanio cyntaf.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am arf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.