Renminbi
Y renminbi (Tsieineeg traddodiadol: 人民幣, Tsieineeg wedi symleiddio: 人民币, yn golygu "arian y bobl") yw arian swyddogol Gweriniaeth Pobl Tsieina. Banc Pobl Tsieina sy'n cyhoeddi'r arian. Y talfyriad swyddogol ISO 4217 amdano yw CNY.
Enghraifft o'r canlynol | arian cyfred, yuan |
---|---|
Rhan o | special drawing rights |
Dechreuwyd | 1949 |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
Gwneuthurwr | China Banknote Printing and Minting Corporation |
Rhagflaenydd | Mengjiang yuan |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Unedau'r Renminbi
golyguUned sylfaenol y renminbi yw'r yuan. Mae yuan fel arfer yn cael ei ysgrifennu â'r arwyddnod 元, ond i rwystro ffugio a chamgymeriadau rhifo caiff ei ysgrifennu yn ffurfiol fel 圆. Caiff yr arwyddnod ei drawslythrennu i'r wyddor Lladin fel Ұ neu ¥. Ambell waith mae enw'r arian, renminbi, yn cael ei ddrysu ag enw'r uned sylfaenol yuan.
Mae un yuan yn cynnwys 10 jiao (角). Mae 1 jiao yn cynnwys 10 fen (分). Cyhoeddir arian papur o wahanol werthoedd, y mwyaf yn werth 100 yuan a'r lleiaf yn werth 1 fen.
Yn Tsieineeg Mandarin, gelwir yr yuan hefyd yn kuai (块) ar lafar, mewn rhai ardaloedd. Yr un modd gelwir y jiao yn mao (毛) ar lafar.
Yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina wrth ysgrifennu prisiau mewn siopau fe roddir yr arwyddnod ¥ o flaen y rhif yn aml, yn ogystal â'r arwyddnod 元 wedi'r rhif.
Wynebwerthau
golyguMae'r Renminbi wedi ei rannu i dair uned sylfaenol sef yr yuan, jiao a fen ac iddynt werth cymharol 1/1, 1/10 a 1/100 yn ôl eu trefn.
Peth diddorol i sylw yw bod pob gwerth—o'r lleiaf, 1 fen, i'r mwyaf, 100 yuan—ar gael fel arian papur. Erbyn hyn mae'r papurau fen bron yn ddiwerth. Maent yn llai o faint na phapur y gwerthoedd eraill ac nid yw cynllun yr arian papur fen wedi newid er 1953.
Papurau banc
golygu- CNY 100
- CNY 50
- CNY 20 (newydd gyda'r 5ed gyfres yn 1999)
- CNY 10
- CNY 5
- CNY 2 (rwan yn diflannu, ond heb eto eu galw yn eu hôl)
- CNY 1
- CNY 0.5
- CNY 0.2
- CNY 0.1
- CNY 0.05 (prin iawn)
- CNY 0.02 (prin)
- CNY 0.01
Darnau arian
golygu- CNY 1
- CNY 0.5
- CNY 0.1
- CNY 0.05
- CNY 0.02
- CNY 0.01
5ed Gyfres
golyguYn 1999, dechrewyd cyhoeddi cyfres newydd o arian papur a darnau arian y Renminbi, sef argraffiad cyntaf y bumed gyfres. Cyhoeddwyd arian papur a'r wynebwerthoedd canlynol:
- CNY 100
- CNY 50
- CNY 20 (newydd gyda'r gyfres hon)
- CNY 10
- CNY 5
- CNY 1
Hefyd cyhoeddwyd darnau arian newydd:
- CNY 1
- CNY 0.5
- CNY 0.1
Mae'r papurau newydd wedi eu cynllunio i rwystro ffugio. Mae ganddynt ddyfrnodau, maent yn fflwroleuo mewn golau uwchfioled ac mae stribed o fetel ynddynt oll heblaw am y papur ¥1. Mae gan y papur gwerth ¥50 a ¥100 rifau sy'n newid eu lliw wrth edrych arnynt o wahanol onglau. Lle ynghynt y cafwyd amrywiaeth o ddelweddau o ŵr a gwraig mewn gwisg draddodiadol yn perthyn i wahanol ardaloedd o Tsieina, delwedd unffurf o Mao Zedong a ymddengys ar bob papur gaiff ei gyhoeddi yn y 5ed gyfres. Y papur diweddaraf i gael ei gyhoeddi yn argraffiad cyntaf y bumed gyfres yw'r papur CNY 1, a gyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2004. Defnyddiwyd nifer o ffyrdd ychwanegol o ddiogelu'r arian papur yn y papur CNY ac fe ail-gyhoeddwyd y papurau eraill a rhagor fyth o nodweddion diogelu ynddynt, gan ddechrau ail-gyhoeddi ar 31 Awst 2005.
Mae'r 4edd gyfres, a gyhoeddwyd yn 1980 a 1990, o hyd yn arian cyfreithlon. Yn 2000, galwodd Banc Pobl Tsieina hen bapurau'r 3ydd gyfres o'r 1960au a 1970au yn eu hôl.
Cyfradd gyfnewid
golyguO 1994 hyd at 21 Gorffennaf 2005 polisi llywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina oedd sefydlogi gwerth cyfnewid y renminbi yn erbyn Doler America – ar raddfa o tua 8.28 renminbi i bob doler America. Yng ngwyneb pwysau gwleidyddol o du UDA cafwyd gwared ar y peg â doler America ar 21 Gorffennaf 2005, pan adbrisiwyd y renminbi i 8.11 renminbi i bob doler America. Ar yr un pryd cyhoeddodd Banc Pobl Tsieina y byddent yn sefydlogi gwerth cyfnewid y renminbi yn erbyn basged o arian breiniol nifer o wledydd ac y byddai'r renminbi yn cael ei gyfnewid hyd at derfyn gwahaniaeth o 0.3% yn erbyn y fasged arian breiniol. Yn ôl GPC prif unedau'r fasged arian breiniol yw doler America, yr Euro, yen Japan a won De Corea, a chanran llai o bunt sterling, baht Thailand, rwbl Rwsia, doler Awstralia, doler Canada a doler Singapôr.
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Yuan Renminbi (CNY / RMB) 1953-2019 (Saesneg) (Almaeneg) (Ffrangeg)
- Yuan FEC (FEC) 1980-1994 (Saesneg) (Almaeneg) (Ffrangeg)