Bae Rest, Porthcawl
(Ailgyfeiriad o Rest Bay, Porth Cawl)
Un o naw o draethau ym Mhorthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw Bae Rest. Saif tua dwy filltir o Borthcawl ei hun.
Math | bae |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.489°N 3.728°W |
Mae'n draeth tywod melyn o safon Baner Las yng ngorllewin Porthcawl ac yn wynebu'r de-orllewin sy'n golygu ei fod yn llygad yr haul. Mae'n hynod o boblogaidd am ei chwaraeon dŵr, yn enwedig syrffio. Mae na gamera byw (live cam) ar y tonnau 24 awr y dydd a cheir gorsaf achub yn goruchwylio'r traeth, gyda'i weithwyr yn cadw llygad ar y nofwyr a'r chwaraewyr dŵr.
I'r gorllewin o'r traeth saif Clwb Golff Brenhinol Porthcawl a Phentir Sker. Ym Mhorthcawl ei hun ceir siopau twristaidd, ffeiriau, candifflos, clybiau nos, disgos a gwestai. Ond does dim llawer ym Mae Rest, ar wahan i draethau, creigiau a môr.