Rhanwedd
Mae rhanwedd yn gynnyrch digidol a roddir am ddim; gall y cynnyrch fod yn feddalwedd, yn gêm gyfrifiadurol neu'n wasanaeth ar y we. Fel arfer, er fod y pris am ddim, codir am rannau atodol, ychwanegol. Defnyddir y math hwn o strategaeth prisio gan y diwydiant meddalwedd ers y 1980au, a manylir ar yr hawliau mewn trwydded meddalwedd penodol.[1][2]
Mae rhadwedd a "free-to-play" yn amrywiadau ar y math hwn o strategaeth marchnata. Er bod cynnyrch rhanwedd yn bodoli ers yr 1980au, ni fathwyd enw arno'n Saesneg tan 2006, mewn blog gan y cyfalafwr Fred Wilson a Jarid Lukin o'r cwmni Alacra,[3] a bathwyd y term Cymraeg yn y 2010au.
Gellir edrych ar feddalwedd a gwasanaeth rhanwedd fel abwyd a deflir i'r dŵr, am ddim, gyda'r gobaith o ddal pysgodyn, y cwsmer! Gair cyfansawdd sydd yma: 'rhan' a 'wedd' fel a geir yn y gair 'meddalwedd'.
Enghreifftiau:
Cyfeiriadau
golygu- ↑ JLM de la Iglesia, JEL Gayo, "Doing business by selling free services". Web 2.0: The Business Model, 2008. Springer
- ↑ Tom Hayes, "Jump Point: How Network Culture is Revolutionizing Business". 2008. Tudalen 195.
- ↑ Schenck, Barbara FindlayNodyn:Failed verification (7 Chwefror 2011). "Freemium: Is the Price Right for Your Company?". Entrepreneur. Cyrchwyd 2018-01-09.
- ↑ Barr, Alistair (2011-09-11). "'Freemium' approach attracts venture capital". The Montreal Gazette. Postmedia Network Inc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-19. Cyrchwyd 2013-08-13.
- ↑ Chittum, Ryan (2011-07-22). "The NYT Paywall Is Out of the Gate Fast". Columbia Journalism Review. Cyrchwyd 2011-12-07.