Rheilffordd Chicago, Burlington a Quincy

Roedd Rheilffordd Chicago, Burlington a Quincy yn rheilffordd yng nghanoldir yr Unol Daleithiau. Defnyddir weithiau’r enw ‘Burlington Route’ amdani. Roedd ganddi linellau yn Illinois, Colorado, Iowa, Missouri, Nebraska, Wisconsin a Wyoming, a gwasanaethodd dinasoedd Chicago, Minneapolis–Saint Paul, St. Louis, [Kansas City]] a Denver. Hysbyswyd y rheilfordd gyda’r arwyddeiriau "Everywhere West", "Way of the Zephyrs", and "The Way West”.

Rheilffordd Chicago, Burlington a Quincy
Enghraifft o'r canlynolcwmni rheilffordd Edit this on Wikidata
Daeth i ben1970 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1856 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganRheilffordd Burlington Northern Edit this on Wikidata
Lled y cledrau1435 mm Edit this on Wikidata
RhagflaenyddAtchison and Nebraska Railroad, Burlington and Northwestern Railway Edit this on Wikidata
OlynyddRheilffordd Burlington Northern Edit this on Wikidata
PencadlysChicago Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthColorado Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ym 1967, roedd gan y rheilffordd 19,565 miliwn tunnell-filltiroedd o nwyddau a 723 miliwn o deithwyr-filltiroedd ar 8538 milltir o linellau.

Unodd y rheilffordd gyda Rheilffordd Northern Pacific a Rheilffordd Great Northern (UDA) ym 1970, yn ffurfio Rheilffordd Burlington Northern

Trên Zephyr

Hanes golygu

Dechreuodd hanes y rheilffordd gyda Rheilffordd Cangen Aurora. Derbynwyd dinasyddion Aurora, Illinois a Batavia, Illinois siarter i adeiladu’r rheilffordd ar 2 Hydref 1848. Roeddent yn poeni y buasai Rheilffordd Union Galena a Chicago yn osgoi Aurora a Batavia. Adeiladwyd y rheilffordd o Aurora, trwy Batavia i ymuno â Rheilffordd Union Galena a Chicago yng Nghyffordd Turner, i’r gorllewin o Chicago. Roedd rhaid i’r rheilffordd dalu 70% o’i hincwm i’r Rheilffordd Union Galena a Chicago, felly chwiliodd Rheilffordd Cangen Aurora am ffordd arall i Chicago.[1] Adeiladwyd y rheilffordd o Aurora i Chicago trwy Naperville, Lisle, Downers Grove, Hinsdale, Berwyn, a gorllewin Chicago. Agorwyd y lein ym 1864 gyda gwasanaeth i deithwyr sy’n parhau hyd at heddiw.

Ailenwyd y rheilffordd ar 22 Mehefin 1852 i Reilffordd Chicago ac Aurora Railroad. on June 22, 1852[2] ac estynnwyd y rheilffordd i Mendota erbyn 20 Hydref 1853. Pasiwyd deddf ar 14 Chwefror 1855, yn aildrefnu’r rheilffordd i fod y Rheilffordd Chicago, Burlington a Quincy.[3]

Estynnwyd y rheilffordd i gyrraedd Burlington, Iowa a Quincy, Illinois ac adeiladwyd pontydd dros Afon Mississippi yn Burlington a Quincy i greu cysylltiadau gyda Rheilffordd Burlington ac Afon Missouri yn Iowa a Rheilffordd Hannibal a St. Joseph Railroad ym Missouri. Adeiladodd Rheilffordd Burlington ac Afon Missouri reilffordd i Lincoln, Nebraska ym 1870 a Kearney, Nebraska erbyn 1872 a phrynwyd y rheilffordd gan y Chicago, Burlington a Quincy. Cwblhawyd rheilffordd i Denver, Colorado erbyn 1882.[4]

1882–1901 golygu

Ehangodd rhwydwaith y rheilffordd wedi’r Rhyfel Cartref America oherwydd rheolaeth synwyrol gan John Murray Forbes a Charles Elliott Perkins. Datblygodd y rheilffordd i fod bron tairgwaith ei maint rhwng 1881 a 1901. Credodd Perkins y dylai’r Burlington fod yn rhan o rwydwaith trawsgyfandirol. I’r gorllewin, aeth y rheilffordd mor bell â Denver a Billings, Montana, ond methodd gyrraedd yr arfordir. Penderfynwyd cysylltu gyda Rheilffordd Great Northern (yn hytrach na’r Rheilffordd Union Pacific) i greu coridor rhwng Chicago a Minneapolis-Saint Paul, Minnesota ac ymlaen i’r gorllewin.

 
Map y rheilffordd, 1892. Mae llinellau’r Burlington yn ddu, eraill yn goch

Y streic Burlington golygu

Streiciodd gyrrwyr trên a dynion tân ym 1888. Parhaodd y streic am 10 mis, ac enillodd y cwmni, ond roedd y cwmni wedi gwario’n drwm i fynd i’r gyfraith, talu gweithwyr i weithio yn ystod y streic a thalu’r heddlu i amddiffyn y cwmni, a doedd y cwmni ddim mewn cyflwr da wedi’r streic.[5]

 
Locomotif dosbarth O-5 5633, adeiladwyd ym1940 yn West Burlington, Iowa, wedi arddangos yn Douglas, Wyoming

Wedi pwrcas y Burlington gan y Great Northern a Pacific, parhaodd ei gwaith ehangu.by GN and NP, expansion continued. Prynwyd Rheilffordd Colorado a Southern a Rheilffordd Fort Worth a Denver ym 1908, er mwyn cyrraedd Dallas a Galveston. Agorwyd llinell newydd o Concord, Illinois i Paducah, Kentucky, ac roedd gan y rheilffordd 12,000 milltir o reilffyrdd erbyn y 1920au, dros 14 o daleithiau.

Ym 1929, crewyd y Cwmni trafnidiaeth Burlington i ddefnyddio bysiau, yn cyd-weithio gyda’u rheilffyrdd. Daeth y cwmni’n rhan o rhwydwaith Trailways, sy’n goroesi hyd at heddiw.

Trenau diesel golygu

Roedd y rheilffordd wedi arbrofi’n aflwyddiannus gyda pŵer diesel. Wedyn prynwyd cerbydau nwy-diesel oddi wrth Cwmni Electro-Motive, a 2 locomotif diesel bach oddi wrth Cwmni General Electric, gyda mwy o lwyddiant.

Adeiladwyd y Burlington Zephyr ym 1934, yn defnyddio peiriant diesel Winton 8-201A.[6]

1945–1970 golygu

Wedi’r Ail Ryfel Byd disodlwyd locomotifau stêm gan diesel, a chwblhawyd y proses ar 28 Medi 1959. Defnyddiwyd locomotif stêm ar Reilffordd C&S hyd at 1962 ar drenau at Bwll Climax yn Colorado oherwydd uchder y reilffordd. Trefnwyd teithiau stêm achlysurol hyd at 17 Gorffennaf 1966.[7]

Perchnogion r Rheilffordd Burlington oedd Rheolffordd y Great Northern a Rheilffordd Northern Pacific. Erbyn 1960 roedd y 3 rheilffordd yn ystyried uno. Roedd gan reilffyrdd yr Unol Daleithiau broblemau cyllido trwy’r 1960au, ac ar 2 Mawrth 1970 unodd Rheilffordd Burlington, y Great Northern, y Northern Pacific a Rheilffordd Spokane, Burlington a Seattle i greu’r Rheilffordd Burlington Northern. Ym 1996, unodd y Burlington Northern a Rheilffordd Atchison, Topeka a Santa Fe, a chrewyd Rheilffordd BNSF. Doedd dim llawer o drenau i deithwyr, oherwydd poblogrwydd ceir. Crewyd Amtrak ym 1971 i redeg gwasanaethau i deithwyr.

Y Zephyrs Burlington golygu

Roedd gan y rheilffordd nifer o drenau diesel i deithwyr, sef y 'Zephyrs'. Aeth yr un cyntaf, y 'Burlington Zephyr', o Denver, Colorado, i Chicago, ar 26 Mai 1934. Dechreuodd gwasanaeth reolaidd rhwng Lincoln, Nebraska, a Kansas City, Missouri ar 11 Tachwedd 1934.[8] Er roedd y trenau’n enwog, na denwyd nifer fawr o deithwyr, a gorffennwyd oes y Zephyrs gyda chyrraeddiad Amtrak.

Y trenau golygu

Aeth trenau eraill gyda enwau ar rwydwaith Burlington, gan gynnwys y canlynol:

 
Trefnwyd ar y cyd gyda Rheilffordd y Northern Pacific gyda enwau gwahanol yn ôl eu cyfeiriad
 
Cerbyd clwb y ‘Chicago Limited’ a ‘Denver Limited’ yn ôl eu cyfeiriad

.

  • Adventureland (Kansas City-Billings)
  • Aristocrat (Chicago–Denver), yn disodli’r Colorado Limited[9]
  • Ak-Sar-Ben (Chicago–Lincoln): yn disodli’r Nebraska Limited; disodlwyd gan yr Ak-Sar-Ben Zephyr
  • American Royal (Chicago–Kansas City): disodlwyd gan yr American Royal Zephyr.
  • Atlantic Express (Seattle-Tacoma-Chicago): ar y cyd gyda Rheilffordd y Northern Pacific
  • Black Hawk (Chicago–Minnepolis/St Paul dros nos)
  • Buffalo Bill (Denver-Yellowstone) Gwasanaeth dymherol tair gwaith yr wythnos rhwng Denver, Colorado a Parc Cenedlaethol Yellowstone trwy Cody, Wyoming
  • Chicago Limited (Chicago-Denver)
  • Coloradoan (Chicago–Denver): disodlwyd gan yr Aristocrat
  • Denver Limited (Denver-Chicago)
  • Exposition Flyer (Chicago–Oakland) ar y cyd gyda Rheilffordd Denver, Rio Grande a’r Gorllewin a Rheilffordd y Western Pacific, cyn lansiad y California Zephyr[10]
  • Empire Builder: trên Rheilffordd y Great Northern rhwng Chicago a Minneapolis
  • Fast Mail” (Chicago–Lincoln)
  • Mainstreeter: trên Rheilffordd y Northern Pacific rhwng Chicago a Minneapolis
  • Nebraska Limited (Chicago–Lincoln): disodlwyd gan Ak-Sar-Ben
  • North Coast Limited: trên Rheilffordd y Northern Pacific rhwng Chicago a Minneapolis
  • North Pacific Express (Chicago-Seattle-Tacoma): ar y cyd gyda Rheilffordd y Northern Pacific
  • Overland Express (Chicago-Denver).[11]
  • Y Shoshone: (Denver-Billings) gyda’r enw anffurfiol "The Night Crawler"
  • Western Star”:trên Rheilffordd y Great Northern rhwng Chicago a Minneapolis
  • Zephyr Connection: (Denver-Cheyenne)

Mae’r California Zephyr yn wasanaeth Amtrak erbyn hyn. Daeth y Kansas City Zephyr a’r “American Royal Zephyr” yn drên arall Amtrak.

Datblygiadau golygu

Roedd y rheilffordd yr un gyntaf i ddefnyddio redio wrth cyfathrebu gyda threnau ym 1915, y trenau llyfnion diesel ar gyfer teithwyr ym 1934 a cherbydau dôm-fista ym 1945.

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. [url=https://www.jstor.org/stable/43520021 Early History of the Chicago, Burlington & Quincy Railroad in Illinois yng nghylchgrawn Cymdeithas Hanesyddol Rheilffordd a Locomotif ar wefan JStor]
  2. Gwefan books.google.com: ‘An act to amend the charter of the Aurora Branch Railroad company’
  3. Gwefan books.google.com:’An act to amend an act entitled "An act to amend the charter of the Chicago and Aurora Railroad Company’
  4. ’Trains across the continent: North American railroad history’ gan Rudolph L Daniels; cyhoeddwyr Gwasg Prifysgol Indiana, 2000
  5. Railroaded: The transcontinentals and the making of modern America gan Richard White, 2011, tud 336-347
  6. Gwefan asme.org
  7. ‘Richard Jensen and the Story of CB&Q 4960, 4963, 5632 and GTW 5629’, Gwefan steamlocomotive.com
  8. Cylchgrawn “Y Palimpsest”; ‘Way of the Zephyrs’ gan Frank P Donovan, 1969
  9. The Meriden Daily Journal, 28 Mawrth 2012
  10. ‘The Scenic Way to California, hysbyseb yng nghylchgrawn ‘Life’ 26 Chwefror 2012
  11. Marvelous Vacation in Cool Colorado hysbyseb yng nghylchgrawn ‘Life’ 26 Chwefror 2012