Rhestr cyfarpar cleddyfa
Rhestrir cyfarpar cleddyfa
Gwisg
golygu- Amddiffynnydd y frest Wedi ei wneud o blastig a wisgir o dan blastron i amddiffyn y frest. Mae’n orfodol i ferched ac yn gyffredin ymhlith cleddyfwyr o ddynion ifainc a feteraniaid
- Bib Darn o’r mwgwd sy’n gorchuddio’r gwddwg
- Clos pen-glin Ddillad sy’n amddiffyn y pengliniau at y llinell wasg; mae'n orfodol i'r siaced allu gorgyffwrdd 10 cm o'r clos pen-glin. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dod â gardysau
- Esgidiau cleddyfa Esgidiau sydd wedi eu cynllunio yn arbennig ar gyfer cleddyfa
- Hosanau Dilledyn ar gyfer y droed a rhan isaf y goes sy’n gorchuddio yn union dan y pen-glin
- Lamé Wedi ei greu o ddeunydd trydanol dargludol, fe’i gwisgir gan gleddyfwyr ffwyl a sabr er mwyn diffinio'r ardal sgorio
- Manchette Gorchudd maneg arbennig wedi ei wneud o ddeunydd trydanol dargludol. Fe’i gwisgir weithiau gan gleddyfwyr sabr ynghyd â lamé i estyn y targed
- Maneg Yn cael ei gwisgo i amddiffyn llaw’r cleddyf, mae gan y faneg dyrnfol sy'n atal llafnau rhag mynd i fyny’r llewys ac achosi anaf
- Mwgwd Wedi ei wisgo gan y cleddyfwr i amddiffyn y pen, mae gwifrog dur y mwgwd yn gadael i'r cleddyfwr weld
- Plastron Dilledyn sy’n cael ei wisgo o dan y siaced; diben y plastron yw amddiffyn y corff rhag ofn i sêm y siaced dorri
- Siaced Dilledyn wedi ei wneud o ddeunydd 350 neu 800 Newton, mae’r siaced yn gorchuddio’r breichiau a'r corff. Yn dibynnu ar y siaced, mae ganddynt blaen neu sip ôl
- Stribyn cenedlaethol Deunydd addurnol sy’n dynodi pa wlad mae cleddyfwr yn ei chynrychioli
|
Eraill
golygu- Gwifren corff Gwifren hir sy’n cael ei gorchuddio o dan siaced neu ‘lame’ sy’n caniatáu’r cleddyfwyr gael ei gysylltu â'r cyfarpar electronig
- Gwifren cleddyf blaenbwl
- Gwifren bidog
- Gwifren dau bin
- Gwifren pen Gwifren a cahnddi glip crocodeil ar bob pen sy’n gadael i bib ffwyl a mwgwd sabr fod yn ddargludol trwy ymestyn y cylched
Cydrannau
golyguDarnau unigol sy’n wneud cleddyf
- Baril Tiwb silindraidd, wedi ei leoli ar ben y llafn; mae’n gorchuddio y tip a’r sbring
- Carn Bydd person yn ei dal i allu rheoli’r cleddyf
- Cnepyn Yn debyg i'r nyten, mae'r cnepyn yn cael ei ddefnyddio i dynhau cleddyf â charn Sabr neu Ffrengig
- Gard Wedi ei leoli ar y llafn, mae’r gard yn amddiffyn y bysedd
- Gwifren llafn Gwifren drydanol sy'n rhedeg ar hyd y llafn i gysylltu'r blaen a'r soced
- Llafn Darn hir o dir
- Cwt Darn silindraidd a helical o fetel sy’n ffurfio rhan isaf y llafn. Mae'r siâp helical yn gadel i nyten neu cnepyn cadw’r gard, soced, carn a phad mewn lle
- Llewys plastig Darn o blastig tenau a silindraidd sy'n cael ei osod dros wifren llafn i'w hamddiffyn cyn i'r wifren gysylltu â'r soced
- Nyten Wedi ei lleoli tu ôl neu o fewn y carn; ddefnyddir nyten i dynhau’r cleddyf
- Pad Wedi ei leoli tu ôl i'r gard, mae'r pad yn atal y wifren rhag symud ac yn amddiffyn y llaw pe bai'r cleddyfwr yn ei chyffwrdd
- Pwynt Wedi ei wneud o fetel a phlastig ac yn gweithredu fel botwm; gellir dod o hyd i'r pwynt ar ddiwedd ffwyl a chleddyf blaenbwl
- Sbring Coil metel troellog sy'n caniatáu pwyntiau ffwyl a chleddyf blaenbwl i gael eu gwasgu. Maent hefyd ar gael o fewn soced bayonet a gwifren corff dau bin
- Sgriw bengoll Sgriwiau bach a’i defnyddiwyd o fewn baril i gadw’r blaen a’r sbring
- Soced Yn clipio i mewn i'r wifren corff
- Soced cleddyf blaenbwl
- Soced bidog
- Soced dau bin
- Tâp llafn Ffwyl yn unig, bydd y tâp yn gorchuddio dros 15 cm o’r llafn, yn ei ddechrau tu ôl i’r faril
- Tâp baril Tâp sy’n gorchuddio baril ffwyl
System sgori
golygu- Cyfarpar cofnodi Term gyffredin i ddisgrifio system electronig sgorio i gofnodi’r trawiadau
- Gwifren llawr Yn cysylltu'r sbŵl â'r cyfarpar cofnodi
- Sbŵl Wedi ei leoli ar ddau ben y trac, mae gan y sbŵl wifrau ôl-dynadwy ac sy'n cysylltu â gwifren chorff cleddyfwr
- Cyfarpar di-wifr System sgori heb wifrau
Ategolion
golygu- Bag cleddyfa Bag sydd wedi ei gynllunio i gludo cit cleddyfa