Rhestr o wledydd a ddaeth yn annibynnol oddi wrth Sbaen

Dyma restr o wledydd a ddaeth yn annibynnol oddi wrth Sbaen, ac a nodir ar y map isod. Daeth y gwledydd hyn yn annibynnol dros ystod eang o amser, gan gychwyn yn y 17g (Portiwgal).

Gorsegynodd Teyrnas Castilla (Sbaen heddiw) nifer o wledydd gyda'r nod o ymgyfoethogi, gwneud arian a chymeryd y brodorion yn gaethweision. Er mwyn cyflawni hyn, danfonwyd llond llongau o filwyr o Sbaen er mwyn gorchyfygu'n filwrol y gwledydd hynny - gyda'r rhan fwyaf ohonynt yng Nghyfandir America. Yn 1597 collodd Coron Sbaen yr Iseldiroedd ac yn 1640 torrodd Portiwgal yn rhydd oddi wrthi wedi 47 mlynedd dan faner Felipe II, brenin Sbaen. Cododd ton arall o wledydd a oedd yn dymuno troi cefn ar Sbaen, yn dilyn Brwydr Trafalgar; oherwydd dylanwad Gwlad y Basg ar ymgyrchwyr Feneswela, torrodd hithau'n rhydd oddi wrth Sbaen a chafodd hyn effaith domino ar wledydd eraill yn Ne America a ymunodd i frwydro dros eu hannibyniaeth, a hynny'n llwyddiannus. Y prif ddylanwad oedd Simon Bolivar.

Yn y 19g gwelwyd Ciwba, Pwerto Rico a'r Philipinau hefyd yn datgan eu hannibyniaeth a rhoddodd yUnol daleithiau'r America sel ei fendith ar hyn. Ers y 1950au collodd Sbaen diroedd yn Affrica, gan gynnwys Gini Gyhydeddol a Gorllewin y Sahara, ond daliodd ei gafael ar handes o dir yma ac acw, gan gynnwys Ceuta a Melilla.