Rhyfela awyrennol
Defnyddio awyrennau milwrol wrth ryfela yw rhyfela awyrennol. Gall gymryd amryw o ffurfiau, megis targedu galluoedd milwrol y gelyn, sef bomio tactegol; targedu galluoedd economaidd y gelyn, sef bomio strategol; cefnogi lluoedd tir ar y maes brwydr; neu frwydro dros reolaeth awyr yr ardal frwydro yn erbyn awyrennau'r gelyn (sy'n cynnwys ysgarmesu awyrennau).
Eginyn erthygl sydd uchod am ryfel neu wrthdaro milwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.